Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau am Gofnodion


Mynediad i Gofnodion Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol (Ymddiriedolaeth) Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi hawl i unigolion gael mynediad at gofnodion iechyd. Caniateir 30 diwrnod calendr i'r Ymddiriedolaeth ar ôl derbyn cais i ddarparu copïau o'r cofnodion y gofynnwyd amdanynt. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk/your-data-matters/ .

Gwneud cais am Fynediad at Gofnodion Iechyd

Os dymunwch gael mynediad i'ch cofnodion, cofnod ar ran rhywun arall neu berson sydd wedi marw, byddai'n ddefnyddiol pe gallech lenwi'r ffurflen gais ganlynol, y bydd angen ei hanfon at Dîm Gwasanaethau Cofnodion WAST. Gallwch naill ai lenwi’r ffurflen yn electronig drwy ddefnyddio’r E-Ffurflen ac e-bostio at amb.records@wales.nhs.uk neu ysgrifennu eich cais â llaw gan ddefnyddio’r fersiwn argraffadwy o’r ffurflen a’i hanfon i gyfeiriad Tŷ Elwy isod.

Wrth gwblhau'r ffurflen gais, os gwelwch yn dda:

Byddwch yn benodol – helpwch ni i nodi’r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch, er enghraifft, os yw’r cais yn ymwneud â digwyddiad, yna mae dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad yn ein helpu i ddod o hyd iddo;

Darparwch brawf o bwy ydych – er enghraifft, pasbort, trwydded yrru, neu dystysgrif geni ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall a all gadarnhau eich cyfeiriad, ee bil cyfleustodau. Sylwch nad oes angen dogfennau gwreiddiol arnom, derbynnir llungopïau.

Darparwch brawf o berthynas - os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson arall darparwch brawf o berthynas ac unrhyw ganiatâd angenrheidiol. Bydd angen i chi hefyd nodi'r rheswm pam fod angen y wybodaeth arnoch os yw'r person wedi marw;

A rhowch eich manylion cyswllt – eich cyfeiriad gohebu, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost os bydd angen cysylltu â chi i drafod eich cais ymhellach.

Os hoffech ragor o wybodaeth, gweler y dudalen arweiniad 'Nodiadau i Ymgeiswyr' ar gefn y Ffurflen Gais er gwybodaeth. Fel arall, cysylltwch â'ch Adran Mynediad at Gofnodion Iechyd leol, lle bydd aelod o'r tîm yn hapus i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Manylion cyswllt:

E-bost:                Amb.records@wales.nhs.uk

Ffôn: 0300 123 2310, dydd Llun i ddydd Gwener, 08:30 – 16:30 (ac eithrio Gwyliau Banc)

Cyfeiriad:
Tîm Gwasanaethau Cofnodion ac Archifau
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ty Elwy, Uned 7
Ffordd Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
LL17 0LJ