Neidio i'r prif gynnwy

Galw ar wasanaeth 111 GIG Cymru

Datganiad dydd Mawrth 27 Rhagfyr 2022:

Dywedodd Jonathan Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sy’n darparu gwasanaeth GIG 111 Cymru: “Mae galw sylweddol ar ein gwasanaeth 111 yn golygu y gall rhai galwyr aros am amser hir i’w galwad gael ei hateb heddiw, sawl awr o bosibl. .

“Rydym yn gwybod pa mor rhwystredig yw hyn pan fyddwch chi neu’ch anwylyd yn sâl a hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd wrth i’n trinwyr galwadau weithio cyn gynted â phosibl i ateb cymaint o alwadau â phosibl.

“I gael cyngor a gwybodaeth iechyd cyflym, rhad ac am ddim y gellir ymddiried ynddynt, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn ymweld â GIG 111 Cymru lle gallwch wirio’ch symptomau i ddarganfod beth sydd o’i le a’r camau nesaf i’w cymryd.

“Yma fe gewch hefyd fanylion am oriau agor eich fferyllfa agosaf tra bod meddygfeydd yn parhau ar gau heddiw.

“Helpwch ni i'ch helpu chi trwy ffonio 111 dim ond os yw'n frys i gadw llinellau'n glir i'r rhai sydd fwyaf angen ein cymorth.”