Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dathlu cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu ers tro

MAE staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gwasanaethu am gyfnod hir yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cael eu dathlu mewn digwyddiad yn Ne Cymru.

Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr gyda 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth GIG yn Stadiwm Abertawe.com yn y pumed o chwe digwyddiad ledled Cymru i gydnabod hyd gwasanaeth.

Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da y Frenhines hefyd i’r rhai sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys yn nigwyddiad 08 Medi, a gynhaliwyd yn yr oriau cyn cyhoeddi marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Ymhlith y gwesteion nodedig roedd Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet YH, ac Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Mr Stephen Rogers Ysw.

Roedd gwesteion arbennig eraill yn cynnwys
Trudi Meyrick, Prif Uwcharolygydd yn Heddlu De Cymru, Inese Robotham, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Richard Paskell, Prif Wirfoddolwr yn Ambiwlans Sant Ioan Cymru.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Mae ein Gwobrau Gwasanaeth Hir yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu enaid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – ei bobl – ac yn benodol, hyd eu gwasanaeth.

“Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Yn aml pan fo pobl ar eu trai isaf, ein staff ni yw’r bobl maen nhw’n troi atyn nhw, ac mae’n cymryd pobol ryfeddol i wneud y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud, o ddydd i ddydd.

“Mae'n syfrdanol meddwl bod yr holl Wobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym yn y digwyddiad yn Abertawe yn fwy na 1,300 o flynyddoedd o wasanaeth.

“Heddiw a phob dydd, rydyn ni’n diolch i gydweithwyr am eu gwasanaeth.”

Mae mwy na 400 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi cael eu gwahodd i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni, y digwyddiadau gwobrwyo personol cyntaf ers 2019 oherwydd pandemig Covid-19.

Ychwanegodd y Cadeirydd Martin Woodford: “Y rheswm pam mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ei bobl sy’n gweithio’n ddiflino, 24/7, i wasanaethu pobl Cymru.

“Yr hyn sy'n arbennig am ddigwyddiadau eleni yw mai dyma'r tro cyntaf yn ein hanes i'n gwirfoddolwyr sydd wedi gwasanaethu ers tro gael eu cydnabod hefyd.

“Y llynedd, lansiwyd ein Strategaeth Gwirfoddolwyr gyntaf, sy'n nodi sut y bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi'n well i gyflawni eu rôl a'u hintegreiddio'n well i'r gweithlu.

“Roedd yn gwneud synnwyr perffaith, felly, i gydnabod eu hymrwymiad i bobl Cymru yn yr un ffordd ag yr ydym yn cydnabod staff.

“Llongyfarchiadau i bob un o’n derbynwyr.”


Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Pennaeth Cyfathrebu Lois Hough ar 07866887559 neu e-bostiwch Lois.Hough@wales.nhs.uk