Mae gweithiwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ennill gwobr chwenychedig.
Mae Petra Gross, Technegydd Meddygol Brys (EMT) ym Machynlleth, wedi ennill Gwobr Prentisiaeth Uwch y Flwyddyn 2021 gan Academi Sgiliau Cymru.
Ymunodd y ddynes 51 oed â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn 2018, gan ddechrau ei thaith yn y Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS).
Yn 2021, gyda chymorth partneriaeth yr Ymddiriedolaeth ag Academi Sgiliau Cymru, cymhwysodd fel EMT.
Dywedodd Petra: “Mae addysg wedi bod yn eithaf brawychus, ond roeddwn yn awyddus i gael lle ar y cwrs EMT gan fy mod eisiau bod yn barafeddyg.
“Ar ôl sylweddoli nad oedd gen i’r sgiliau perthnasol i fod yn dechnegydd dan hyfforddiant, fe es i ar daith bedair wythnos wallgof iawn i ennill y fathemateg angenrheidiol, gan fod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn agosáu.
“Mae’n lwcus bod fy ngŵr yn dda mewn mathemateg, oherwydd, ynghyd â thiwtor roeddwn i’n gallu pasio.”
Yna ymunodd Petra â rhaglen Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt Prentisiaeth Uwch Lefel 4 ym mis Ebrill 2020, gan nodi dechrau ei thaith EMT.
Parhaodd: “Ceisiais gymorth gan fy nghydweithwyr, treuliais amser ychwanegol mewn gorsafoedd ambiwlans a threuliais oriau lawer yn astudio i sicrhau fy mod wedi ennill y cymwysterau EMT.
“Roeddwn i mor falch pan wnes i gymhwyso ym mis Mehefin 2021 ac mae’r wobr hon wedi gwneud y daith hyd yn oed yn fwy arbennig.”
Ers yr enwebiad hwn, mae Petra hefyd wedi llwyddo i sicrhau lle ar gwrs trosi parafeddygon eleni.
Dywedodd “Rwyf wedi gweld bod symud ymlaen drwy'r gwasanaeth, o gynorthwyydd gofal ambiwlans i gynorthwyydd gofal brys ac yn awr i EMT yn fuddiol iawn.
“Mae'n rhoi trosolwg da iawn i chi o'r gwasanaeth ac mae wir yn helpu i feithrin sgiliau clinigol cleifion a gobeithio y gallaf gymhwyso fel parafeddyg yn fuan.
“I unrhyw un sy’n ystyried ymuno â’r gwasanaeth neu symud drwyddo, byddwn yn dweud rhoi eich hun allan yna a rhoi cynnig arni.”
Mae Petra hefyd yn rhan o Wasanaeth Gwirfoddoli Dymuniad yr Ymddiriedolaeth, gan weithio ochr yn ochr â Gofal Lliniarol Cymru , sy’n galluogi pobl sy’n agos at ddiwedd eu hoes i gael
siwrnai ystyrlon, ac aelod o Grŵp Dysgu a Datblygu'r Ymddiriedolaeth, sy'n cefnogi staff ag anableddau dysgu.
Dywedodd Claire Hurford, Cydlynydd Prentisiaethau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a enwebodd Petra ar gyfer y wobr: “Mae moeseg gwaith, personoliaeth, proffesiynoldeb ac ymroddiad Petra yn eithriadol.
“Roedd yn bleser pur enwebu Petra ar gyfer y wobr hon, ac mae ei gweld yn ennill yn wych.
“Mae hi’n rhan annatod o WAST, yn chwaraewr tîm y gellir ei ddarganfod yn aml yn cynorthwyo eraill.
“Rwy’n gyffrous iawn i weld ei bod yn parhau â’i haddysg drwy’r gwasanaeth a ddim yn amau y bydd yn dod yn barafeddyg.”
Cynhaliwyd y seremoni ddoe (15 Tachwedd) yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, lle dathlwyd dysgwyr, darparwyr a mentrau rhagorol mewn dysgu seiliedig ar waith ar draws Partneriaeth Academi Sgiliau Cymru yn ystod 2020/21 a 2021/22.
Nodiadau y Golygydd
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddog Cyfathrebu Beth Eales ar 07870 383209 neu e- bostiwch Beth.Eales@wales.nhs.uk
Dechreuodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mewn partneriaeth ag Academi Sgiliau Cymru, ei raglen Prentisiaeth Uwch ym mis Ebrill 2020.
Mae hyn yn cynnwys nifer o gymwysterau sy'n benodol i'r gwasanaeth ambiwlans, gan gynnwys Tystysgrif Lefel 3 mewn Gyrru Ymateb Brys a Diploma Lefel 4 mewn Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt ac fe'i hategir gan Lefel 2 Sgiliau Hanfodol.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i bobl yr Ymddiriedolaeth ar gyfer eu rôl Gwasanaethau Meddygol Brys hanfodol.