Neidio i'r prif gynnwy

'999? Dw i wedi colli fy nannedd ffug!' – Datgelu galwadau amhriodol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru

MAE’R Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgelu rhai o’r galwadau amhriodol a wnaed i 999 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn eu plith roedd rhywun oedd wedi colli ei lais, rhywun â modrwy yn sownd ar eu bys a rhywun oedd wedi colli eu dannedd ffug.

Ffoniodd un person 999 oherwydd ei fod wedi bwyta gormod o gebab, tra bod un arall â'i law yn sownd mewn blwch llythyrau.

O'r 414,149 o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans y llynedd, roedd 68,416 yn rhai nad oedd yn argyfwng bywyd neu farwolaeth – 188 galwad y dydd ar gyfartaledd.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn atgoffa pobl i ffonio 999 dim ond os yw rhywun yn ddifrifol wael neu wedi'i anafu.

Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth: “Mae galwadau amhriodol yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaeth sydd eisoes dan bwysau ac fe allant ohirio cymorth i eraill.

“Mae ein parafeddygon a’n technegwyr hynod fedrus wedi’u hyfforddi i helpu’r rhai y mae eu bywyd mewn perygl dybryd.

“Hynny yw’r bobl sy'n cael ataliad ar y galon, pobl â phoen yn y frest neu anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, adweithiau alergaidd difrifol, gwaedu trychinebus neu rywun sy'n cael strôc.

“Mae gan bobl sydd wedi cael peswch ers cwpl o ddiwrnodau angen clinigol dilys, ond mae'n annoeth ffonio 999 pan fo cymaint o ffyrdd eraill o gael cymorth.

“Ein ple i’r cyhoedd yw defnyddio’ch synnwyr cyffredin – mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod y gwahaniaeth rhwng argyfwng go iawn a rhywbeth sy’n anghyfforddus, yn boenus neu’n cythruddo ond nad yw’n bygwth bywyd.

“Gwnewch yr alwad gywir.”

Mae'r gwasanaeth yn gofyn i bobl addysgu eu hunain am y dewisiadau amgen i 999.

Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Os nad yw’n argyfwng difrifol neu sy’n bygwth bywyd, mae’n bwysig iawn eich bod yn ystyried y dewisiadau amgen i 999.

“Gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich man cyswllt cyntaf i gael cyngor a gwybodaeth, neu fe allech chi ffonio 111 os yw’n fater brys, a bydd ein trefnwyr galwadau yn helpu i’ch cyfeirio at y driniaeth gywir, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.

“Gallech hefyd ymweld â’ch fferyllydd lleol, lle gall arbenigwyr mewn meddyginiaethau gynnig cyngor clinigol am ddim a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer amrywiaeth o anhwylderau cyffredin, fel peswch, annwyd, brechau, doluriau a phoenau.

“Ac mewn Unedau Mân Anafiadau, gall ymarferwyr brys profiadol ddelio â phethau fel mân losgiadau, brathiadau a phigiadau, yn ogystal â mân anafiadau i’r llygaid.

“Sicrhewch fod gennych chi gabinet meddyginiaeth â stoc dda ar gyfer pethau y gellir eu trin gartref, torri bys, cur pen a dolur gwddf.

“Ac os oes gennych chi feddyginiaeth ar bresgripsiwn, cadwch ar ben hynny a'i gasglu mewn pryd.

“Os ydych chi neu'ch anwylyd yn sâl neu wedi'i anafu, gofynnwch i chi'ch hun a ydych chi wir angen sylw'r gwasanaethau brys neu a allwch chi ddefnyddio dewis arall neu wneud eich ffordd eich hun i'r ysbyty.

“Rydyn ni yma i helpu pobl yn eu hawr o angen, ond rydyn ni hefyd angen i'r cyhoedd gymryd rhywfaint o berchnogaeth ac atebolrwydd am eu hiechyd a'u lles ar adeg pan fo gwasanaethau'r GIG dan bwysau y tu hwnt i fesur.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddefnyddio gwasanaethau’r GIG yn ddoeth a’u hamddiffyn ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.”

Ychwanegodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n ddryslyd cael mynediad at wasanaethau'r GIG – dydych chi ddim yn gwybod beth sydd ar agor pryd a pha weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd yn y sefyllfa orau i helpu.

“Yn y tymor hwy, ein huchelgais yw chwarae rhan gryfach yn system ehangach y GIG i helpu cleifion i lywio’r llwybr cywir i’r gwasanaeth mwyaf priodol, ac mae hynny’n cynnwys ymholiadau iechyd nad ydynt yn rhai brys hefyd.

“Ond tan hynny, mae angen i’r cyhoedd barhau i’n defnyddio ni’n synhwyrol i amddiffyn ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd ein hangen ni fwyaf.”

Mae’r canlynol yn alwadau 999 go iawn a wnaed i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf –

Galwad 1
Gweithredwr:
Ambiwlans, beth yw cyfeiriad yr argyfwng?
Galwr: Helo, ie, erm… dwi'n gwybod nad yw'n 100% yn gymwys fel hyn ond mae'n rhaid bod fy ngwraig wedi rhwbio tsili yn ei llygaid ar ddamwain ac mae ei llygaid yn llosgi. Mae hi wedi ceisio eu golchi a does dim byd yn digwydd.

Galwad 2
Gweithredwr:
Dywedwch wrthyf yn union beth sydd wedi digwydd.
Galwr: Cawson ni gebab neithiwr, ac efallai fy mod i wedi cael dipyn bach mwy nag ydw i wedi arfer, yna bore ma, dwi wedi cael stumog dost iawn.


Galwad 3
Galwr:
Mae fy modrwy yn sownd ar fy mys; Dwi angen ei dorri i ffwrdd.
Gweithredwr: A yw eich anadlu'n normal i chi?
Galwr: Mae fy anadlu yn wych, ie.
Gweithredwr: Ydych chi'n gwaedu neu'n chwydu gwaed?
Galwr: Dydw i ddim yn gwaedu, na.
Gweithredwr: Ac a oes gennych unrhyw boen?
Galwr: Ie, ychydig bach.
Gweithredwr: O'r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi, mae angen asesiad manylach arnoch gan nyrs, felly ni fydd ambiwlans yn cael ei anfon ar hyn o bryd.
Galwr: Sut ydw i'n mynd i gyrraedd yno felly? Allwch chi ddod i fy ngweld os gwelwch yn dda?

Galwad 4
Galwr:
Beth sydd gyda hi, mae ei llais wedi mynd. ‘Dyn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Rydyn ni wedi trio lemwn a phob dim, ond ‘dyw hynny ddim yn helpu.
Gweithredwr: Ble mae’r poen gyda hi?
Galwr: Yn ei gwddf hi. Prin y gall hi siarad.
Gweithredwr: Ac ai dim ond ei bod hi wedi colli ei llais, ynte?
Galwr: Ie.

Galwad 5
Gweithredwr:
Gwasanaeth ambiwlans, beth yw cyfeiriad yr argyfwng?
Galwr: Fyddwn i ddim yn dweud ei fod yn argyfwng, ond dw i ddim yn gwybod sut i ffeindio fy ffordd i'r ysbyty. Mae clust i wedi tyllu, ac mae’r clustlws mwy neu lai wedi cael ei rhwygo allan ac mae'r bêl yn sownd yn fy nghlust.
Gweithredwr: Felly, mae'r bêl o'ch clustlws yn sownd y tu mewn i'ch clust?

Galwad 6
Gweithredwr:
Ydy'r claf yn effro?
Galwr: Ie, fi yw e, mae fy llaw yn sownd yn y drws.
Gweithredwr: Ydy'r drws ar glo ar hyn o bryd?
Galwr: Ydy, mae wedi'i gloi. Mam! Na, mae fy llaw yn sownd yn y f*****g blwch llythyrau.
Gweithredwr: Beth yw eich oedran?
Galwr: Agorwch y drws, mae fy llaw yn sownd!

Galwad 7
Gweithredwr:
Dywedwch wrthyf yn union beth sydd wedi digwydd.
Galwr: Dw i wedi cael peswch dros  y diwrnodau diwethaf.
Gweithredwr: Beth oedd hwnna sori, mae gen ti beswch?
Galwr: Ie.
Gweithredwr: Ar hyn o bryd rydym yn profi nifer fawr o argyfyngau sy’n bygwth bywyd. Nid oes ambiwlans ar gael i ymateb i chi. Ein cyngor ni yw ffonio 111.

Galwad 8
Galwr:
Mae gen i ddannedd gosod rhan isaf, ac es i lanhau fy nannedd a dywedais, 'Ble mae fy nannedd ffug?' Mae hyn yn swnio'n wallgof ... ond dydw i ddim yn gwybod beth arall i'w wneud. A allwn fod wedi llyncu fy nannedd ffug?
Gweithredwr: Felly, nid ydych chi'n gwybod ble mae'ch dannedd ffug?