Neidio i'r prif gynnwy

Mwynhau noson Calan Gaeaf yn ddiogel

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl i fwynhau noson Calan Gaeaf yn ddiogel.

Mae Calan Gaeaf yn draddodiadol yn gyfnod prysur i’r gwasanaeth ambiwlans.

Y llynedd, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth 4,682 o alwadau i 999 dros gyfnod Calan Gaeaf a 10,500 o alwadau nad oeddent yn rhai brys i GIG 111 Cymru.

Dywedodd Sonia Thompson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth (Gwasanaeth Meddygol Brys): “Gall Calan Gaeaf fod yn gyfnod prysur iawn i Wasanaethau Ambiwlans Cymru.

“Wrth i ni agosáu at yr amser cyffrous hwn o’r flwyddyn, mae’n bwysig blaenoriaethu diogelwch i ni ein hunain a’n hanwyliaid felly ffoniwch 999 yn unig ar gyfer argyfyngau difrifol neu rai sy’n bygwth bywyd.”

Mae tymor Calan Gaeaf yn aml yn arwain at fwy o weithgareddau ac aduniadau, felly dyma rai awgrymiadau gwerthfawr i wneud eich Calan Gaeaf yn un difyr a diogel.

Bod yn weladwy, bod yn ddiogel

Wrth gamu allan mewn gwisg ffansi, dewiswch ddillad lliw llachar neu ychwanegwch dâp adlewyrchol at eich gwisg i wella gwelededd, yn enwedig os ydych yn cerdded ger ffyrdd.

Cariwch dortsh neu defnyddiwch y dortsh ar eich ffôn i oleuo'ch llwybr os yw'n dywyll.

Mynd gyda phlant

Sicrhewch fod plant ifanc yng nghwmni oedolyn cyfrifol tra’n chwarae tric-neu-drît.

Cadwch at gymdogaethau sydd wedi'u goleuo'n dda, gan osgoi ardaloedd sydd wedi'u goleuo'n wael neu ardaloedd anghyfarwydd.

Gyrru’n gyfrifol

Dylai modurwyr fod yn ofalus iawn ar Galan Gaeaf a disgwyl gweld nifer cynyddol o gerddwyr, yn enwedig mewn ardaloedd preswyl.

Byddwch yn wyliadwrus a chadwch at derfynau cyflymder, gan gadw llygad bob amser am y rhai sy'n chwarae tric-neu-drît.

Dewisiadau goleuo diogel eraill

Yn lle canhwyllau traddodiadol, defnyddiwch oleuadau LED a weithredir gan fatri i oleuo'ch pwmpenni cerfiedig ac addurniadau, gan ddileu'r risg o fflamau agored.

Colur dros fasgiau

Dewiswch golur neu baent wyneb nad yw'n wenwynig yn lle masgiau, gan ganiatáu ar gyfer gwell gwelededd ac anadlu haws tra'n cadw hanfod eich gwisg.

Byddwch yn ofalus i beidio â dychryn pobl agored i niwed, yn enwedig yr henoed.

Dathliadau cyfrifol

Ar gyfer oedolion sy'n dathlu Calan Gaeaf, yfwch yn gyfrifol a gwnewch yn siŵr bod gennych yrrwr dynodedig neu cynlluniwch ar gyfer cludiant arall os ydych chi'n yfed alcohol.

Cynigiwch amrywiaeth o ddiodydd di-alcohol yn yr aduniadau i ddarparu ar gyfer yr holl westeion a hyrwyddwch yfed cyfrifol.

Ychwanegodd Sonia: “Cofiwch, ffoniwch 999 ar gyfer argyfyngau difrifol neu rai sy’n bygwth bywyd yn unig a pheidiwch ag anghofio am y dewisiadau amgen i 999, fel gwefan GIG 111 Cymru , eich meddyg teulu neu’r fferyllydd agosaf.

“Trwy ddilyn y camau syml hyn, gallwch fwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel.”