Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Cawsom ein galw toc wedi 11.15yb i ddigwyddiad ar Stryd Margaret yn Rhydaman.
“Fe wnaethon ni anfon pedwar ambiwlans brys a’r tîm ymateb ardaloedd peryglus i’r lleoliad, lle cafodd y criwiau eu cefnogi gan ddau barafeddygon uned ymateb aciwtedd uchel Cymru a rheolwr gweithredol.
“Cafodd cymorth gofal critigol uwch ei ddarparu gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn dau hofrennydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru.”