Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei Gyfarfod Bwrdd deufisol

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol.

Gall y cyhoedd ymuno drwy Zoom i glywed uwch arweinwyr yn trafod agenda llawn eitemau, gan gynnwys y cynnydd ar gamau gweithredu i liniaru niwed i gleifion a Chynllun Tymor Canolig Integredig yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys ei chynllun ariannol.

Bydd y Bwrdd hefyd yn trafod ac yn cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol yr Ymddiriedolaeth, Adroddiad Monitro Cydraddoldeb y Gweithlu ac adroddiadau Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau.

Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis:
“Mae cyfarfodydd bwrdd yn gyfle i ddysgu am ein gwasanaeth ambiwlans ac i ddeall y prosesau y tu ôl i’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.

“Maent hefyd yn gyfle i glywed am y gwaith sy’n digwydd yma ac yn awr i wella pethau i gleifion a staff, yn ogystal â gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.”

Cliciwch
yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 28 Mawrth o 9.30am.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch e-bost at
AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 27 Mawrth fan bellaf.

Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw i dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth, a bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau nesaf.

Nodiadau gan y golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cymorth Cyfathrebu Laura.Abraham@wales.nhs.uk neu ffoniwch Laura ar 07811755409.