Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

10.09.24

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.


Dysgwch fwy am gyflawniadau'r Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys y gwasanaeth ymateb cyflym newydd sy'n galluogi parafeddygon gofal lliniarol i gefnogi cleifion sy’n derfynol wael yn well a'r mentrau sy'n helpu pobl mewn argyfwng iechyd meddwl.

Bydd y Bwrdd yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a chyfrifon yn ffurfiol, yn rhoi trosolwg o berfformiad a chyllid a bydd hefyd yn cymryd cwestiynau gan y cyhoedd.

Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Mae wedi bod yn flwyddyn heriol arall i bob un ohonom yn y GIG, ac nid yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod yn eithriad.

“Er gwaethaf yr heriau, mae ein cyflawniadau wedi bod yn drawiadol, ac mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i ddysgu mwy am y rheini wrth i ni fyfyrio ar sut mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi teimlo i ni fel sefydliad.

“Mae hefyd yn gyfle i edrych i’r dyfodol, felly byddwch chi’n ein clywed ni’n siarad am ein cynlluniau tymor hwy hefyd.

“Wrth wraidd y cynlluniau hynny mae cydnabyddiaeth bod angen trawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau yn radical er mwyn darparu’r cyngor a’r gofal iawn i gleifion, yn y lle iawn, bob tro.

“Gobeithiwn byddwch yn gallu ymuno â ni.”

Cliciwch yma i ymuno â chyfarfod Zoom ddydd Gwener 27 Medi o 9.30am tan 11am, a fydd hefyd yn cael ei ffrydio ar dudalen Facebook Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Gall gwylwyr ofyn cwestiwn mewn amser real trwy'r opsiwn Holi ac Ateb ar Zoom, neu gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw trwy e-bostio AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 25 Medi fan bellaf.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer 2023/24.

Bydd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn cynnal ei chyfarfod Bwrdd deufisol trwy Zoom y diwrnod cynt, ddydd Iau 26 Medi.

Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod sy'n dechrau am 9.30am, a bydd agenda ar ei gyfer ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn fuan.