BYDD gweithiwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn torri ei wallt am y tro cyntaf ers dros bedair blynedd i gefnogi dwy elusen.
Bydd James Mailer, Dadansoddwr Desg Gwasanaeth yn Nhŷ Elwy, Llanelwy, yn rhoi tua dwy droedfedd o wallt – a gafodd ei docio ddiwethaf ym mis Awst 2019 i’r Little Princess Trust.
Mae'r elusen yn defnyddio gwallt a roddwyd i wneud wigiau am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 24 oed, sydd wedi colli eu gwallt eu hunain drwy driniaeth canser neu gyflyrau eraill.
Mae James hefyd yn gobeithio codi arian i Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac mae eisoes wedi codi mwy na £500 gan gydweithwyr, teulu a ffrindiau.
Cyn iddo dorri ei wallt, dywedodd James: “Ar ôl tyfu fy ngwallt mor hir â hyn, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr na fyddai’n mynd yn wastraff pan allai wneud rhywun arall mor hapus – a dyna pam roeddwn i eisiau ei roi i fynd tuag at wig i berson ifanc yn y Little Princess Trust.
“Roeddwn i hefyd eisiau gallu cefnogi fy nghydweithwyr WAST trwy Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Mae WAST wedi rhoi gyrfa dw i’n ei mwynhau’n fawr i mi, ac mae’n fraint cael gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr sy’n achub bywydau bob dydd.”
Dywedodd David Hopkins, Pennaeth Elusen WAST: “Rydym mor ddiolchgar am gefnogaeth James, ac wrth ein bodd y bydd ei doriad gwallt noddedig o fudd nid yn unig i Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ond i’r Little Princess Trust hefyd, gan gefnogi eu gwaith gwych ar gyfer pobl ifanc.
“Bydd pob ceiniog y mae James yn ei chodi ar gyfer Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cefnogi staff WAST, gwirfoddolwyr a chleifion ledled Cymru.
“Diolch i James, ac i’w holl ffrindiau, ei deulu a’i gydweithwyr, am eu cefnogaeth.”
Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yw elusen GIG swyddogol WAST, sy'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n bosibl trwy gyllid statudol gan y llywodraeth.
Gallwch noddi James a chefnogi Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru drwy ymweld â’i dudalen codi arian ar Give as you Live.