Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau statudol Gwrando ar Bobl newydd i wella'r ffordd mae GIG Cymru yn ymateb i bryderon

01.04.26

O heddiw (1 Ebrill 2026) ymlaen, bydd GIG Cymru yn gweithredu newidiadau i'r ffordd yr ymchwilir i bryderon ledled Cymru.

Un o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu cyflwyno yw'r canllawiau statudol newydd Gwrando ar Bobl, sy'n disodli'r canllawiau Gweithio i Wella presennol.

Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i'w gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gleifion, teuluoedd a gofalwyr godi pryderon a/neu rannu eu profiad am ofal y GIG.

Mae'r dull newydd hwn yn rhan o ymrwymiad cenedlaethol i wella agwedd agored, tosturi a dysgu ar draws gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a chyflwyno prosesau cliriach a gwell cymorth i unrhyw un sy'n dymuno siarad am eu gofal.

Beth fydd yn newid?
Mae'r canllawiau Gwrando ar Bobl newydd yn cryfhau ein hymrwymiad i fod yn agored, yn dosturiol ac i ymateb yn amserol. Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys:

  • Cynnig gorfodol o sesiwn gwrando gweithredol
    Bellach, bydd angen cynnig sgwrs wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar fideo ar ôl nodi pob pryder, sy’n sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed cyn gynted â phosibl.
  • Cam datrys cynnar newydd
    Bydd cyfnod pwrpasol o 10 diwrnod gwaith yn galluogi datrysiad cyflym a thosturiol lle bo'n briodol.
  • Mwy o dryloywder a bod yn fwy agored
    Rhwymedigaethau cryfach o ran ymddiheuro ar unwaith, tryloywder a chyfathrebu clir pan fydd niwed yn digwydd.
  • Amserlenni a safonau cyfathrebu clir
    Rhaid nodi pryderon o fewn pum niwrnod gwaith, a rhaid i lythyrau canlyniad ddefnyddio iaith glir a bod yn hygyrch.
  • Trothwy iawndal ariannol uwch
    Bydd yr uchafswm iawndal a fydd ar gael heb ymyrraeth gan lys yn codi o £25,000 i £50,000.

Mae gan bawb yr hawl i godi pryder am ofal y GIG, a chynigir cymorth o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mynediad at eiriolaeth (gan gynnwys trwy Llais, corff llais y dinesydd statudol ac annibynnol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru).
  • Cymorth cyfathrebu ac addasiadau rhesymol.
  • Cymorth i bobl ag anghenion iaith, anableddau neu sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Gellir codi pryderon gydag unrhyw aelod o staff, yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Rwy’n falch o gyflwyno Gwrando ar Bobl, dull cenedlaethol newydd Cymru o ymdrin â phryderon, cwynion, digwyddiadau ac iawndal y GIG.

“Mae'r canllawiau wedi'u llunio gydag un pwrpas mewn golwg – sef sicrhau bod pob unigolyn sy'n codi pryder am ei ofal yn cael ei drin ag urddas, tegwch, tosturi a pharch.

“Mae hyn yn rhoi ar waith yr egwyddor bod pob llais yn bwysig.

“Ledled Cymru, mae cleifion, teuluoedd a gofalwyr wedi dweud wrthym y gall codi pryder fod yn frawychus.

“Dim ond ar adegau o ofid, ansicrwydd neu golled y mae llawer o bobl yn dod ymlaen.

“Mae eraill yn poeni na fyddan nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, neu y gallai codi eu llais effeithio ar eu gofal yn y dyfodol.

“Hoffwn eich sicrhau bod codi pryder yn un o’r hawliau sydd gennych chi, ond mae hefyd yn rhan hanfodol o sut rydym yn gwneud ein GIG yn fwy diogel, yn decach ac yn well i bawb.

“Ni fyddwch chi’n cael eich trin yn wahanol am godi’ch llais.

“Yn hytrach, bydd eich llais yn ein helpu ni i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu.”

Pam mae'r newidiadau hyn yn bwysig
Mae'r rheoliadau newydd hyn yn cryfhau’r ffordd y mae GIG Cymru yn dysgu o bryderon ac yn defnyddio adborth cleifion i wneud gwelliannau.

Bydd gofyn i sefydliadau’r GIG ddangos sut maen nhw’n gweithredu ar y gwersi hynny i wneud gwasanaethau’n fwy diogel ac yn fwy ymatebol.

Mae rhagor o wybodaeth am y rheoliadau Gwrando ar Bobl, gan gynnwys canllawiau ar sut i godi pryder, ar gael yma: Cwynion a Phryderon