13.03.26
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol – ac mae’n gwahodd y cyhoedd.
Ymunwch â’r cyfarfod ddydd Iau 26 Mawrth drwy Microsoft Teams i wrando ar uwch arweinwyr yn trafod agenda lawn eitemau, gan gynnwys cymeradwyo’r Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2026-29, sy’n amlinellu’r hyn y bydd y sefydliad yn ei flaenoriaethu a’i gyflawni, sut y bydd yn defnyddio ei adnoddau a sut y bydd yn parhau i wella gofal i bobl Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Bydd aelodau’r Bwrdd yn cymeradwyo’r gyllideb refeniw gychwynnol ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn derbyn diweddariad ar berfformiad ariannol cyfredol.
Bydd y Bwrdd hefyd yn clywed gan Mr Clarke o Gwmbrân, sy'n disgrifio profiad o geisio cael cymorth drwy 999 ar gyfer ei ddiweddar dad a oedd yn wael yn derfynol.
Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiwn i'r Bwrdd.
Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Mae cyfarfodydd y Bwrdd yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod ein gwasanaeth ambiwlans yn iawn, gyda golwg glir ar sut mae penderfyniadau pwysig yn cael eu llunio a'r prosesau y tu ôl iddynt.
“Maent hefyd yn darparu fforwm i glywed yn uniongyrchol am waith parhaus, archwilio ffyrdd o wella cefnogaeth i staff a chleifion yr Ymddiriedolaeth ac ymgysylltu â’r bobl sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hynny.”
Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 26 Mawrth 2026 o 9.30am.
Byddwch yn gallu defnyddio’r ddolen 10 munud cyn i’r cyfarfod dechrau.
I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 25 Mawrth 2026 fan bellaf.
Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.