Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Traffig Ffyrdd a Difrod i Eiddo

Mae'n ddrwg gennym glywed eich bod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad gydag un o'n cerbydau neu fod difrod wedi'i wneud i eiddo a oedd yn cynnwys naill ai gerbyd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth) neu aelod o staff.

Gallwch gysylltu â’r Ymddiriedolaeth ynghylch y mater hwn mewn gwahanol ffyrdd:-

  • Dros y ffôn trwy ffonio 0300 321 3211

(Mae ein Hadran Dechnegol ar hyn o bryd yn gweithio i ddatrys problem gyda'r rhif ffôn uchod yn y cyfamser, defnyddiwch y rhif dros dro hwn 0300 123 4012 )

Jason Killens
Prif Weithredwr
Pencadlys Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ty Elwy
Uned 7
Ffordd Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
sir Ddinbych
LL17 0LJ

Gwybodaeth bwysig am y Coronafeirws
Oherwydd pandemig byd-eang COVID-19, bydd ein gallu i ymdrin â’r materion a godwyd gyda ni o fewn yr amser arferol yn cael ei herio. Wrth i'r Ymddiriedolaeth fonitro a defnyddio staff yn barhaus i gefnogi swyddogaethau craidd megis brysbennu dros y ffôn 111, ac asesiad clinigol wyneb yn wyneb o'n cleifion, bydd llai o gapasiti o fewn y Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol yn ystod y pandemig hwn. Gallwn eich sicrhau y bydd hawliadau a dderbynnir yn cael eu hadolygu a'u hymchwilio cyn gynted â phosibl.

Hoffai’r tîm ddiolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn.

Beth fydd ei angen arnom oddi wrthych
Wrth godi'ch hawliad gyda'r Ymddiriedolaeth, byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth i'n galluogi i adnabod y digwyddiad a chaniatáu i ni ymchwilio i'ch hawliad yn gywir ac mewn modd amserol. Y wybodaeth y byddwn ei hangen yn y lle cyntaf yw;

  • Eich enw llawn, cyfeiriad a manylion cyswllt dewisol ee rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost
  • Y dyddiad y digwyddodd y digwyddiad
  • Yr amser y digwyddodd y digwyddiad
  • Y lleoliad y digwyddodd y digwyddiad
  • Eich rhif cofrestru (os yn berthnasol)
  • Ein rhif cofrestru (os yw'n berthnasol/hysbys)
  • Y rheswm dros eich cais (rhowch gymaint o fanylion â phosibl am yr hyn a ddigwyddodd)
  • Unrhyw ofynion penodol ar gyfer cyswllt neu adborth pellach, megis dewis iaith neu i roi gwybod i ni am unrhyw nam ar y synhwyrau y gallai fod angen i ni eu hystyried

Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth) yn hunan-yswiriedig. Byddwn yn ymdrin â hawliadau a dderbynnir mewn perthynas â digwyddiadau traffig ffyrdd a difrod i eiddo personol yn fewnol. Gall yr Ymddiriedolaeth benderfynu cyfarwyddo Cyfreithwyr, ac os felly byddwn yn rhoi gwybod i chi. Mae hyn oherwydd bod rhai hawliadau yn fwy cymhleth nag eraill ond ein nod yw ymdrin â materion mor gyflym ac effeithlon â phosibl.

Yn ein hysbysu o'r ddamwain
Fel yr wyf yn siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi, nid yw staff yr Ymddiriedolaeth yn gweithio o fewn amgylchedd swyddfa ac felly mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn iddynt lenwi Ffurflen Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl digwyddiad. Gall hyn olygu y bydd peth amser cyn i'r Ymddiriedolaeth gael gwybod am y digwyddiad. Dyna pam rydym yn gofyn i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni.