Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

YN dilyn y cyhoeddiad heno gan Balas Buckingham am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cynnig ei gydymdeimlad i’r Teulu Brenhinol. 

Dywedodd y Prif Weithredwr, Jason Killens: “Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.”

“Yn ystod ei theyrnasiad hir roedd Ei Mawrhydi yn frenhines eithriadol a roddodd ei holl fywyd i wasanaethu pobl y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad gyda balchder dibaid.

“Rydym yn meddwl am ac yn rhannu ein cydymdeimlad dwysaf â’r Teulu Brenhinol cyfan ar yr adeg trist iawn yma.”  

Dywedodd y Cadeirydd, Martin Woodford: “Gweithiodd Ei Mawrhydi Elizabeth II yn ddiflino er budd y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, gan gefnogi llu o sefydliadau a fydd yn galaru’n fawr amdani.”  

“Mae meddyliau pawb yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda’r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd hon.”