23.04.26
Ym mis Mawrth 2025, dioddefodd Stephen Booth ataliad y galon sydyn pan oedd yn ymweld â Chanolfan Byd Gwaith Caerfyrddin.
Mae ataliad y galon yn digwydd heb rybudd. Mae'r person yn cwympo’n anymatebol ac nad yw'n anadlu'n normal. Mae'n argyfwng sy'n peryglu bywyd ac sy'n gofyn am weithredu ar unwaith: gwirio am berygl, ffonio 999, dechrau CPR a defnyddio diffibriliwr os oes un ar gael.
Yn ffodus i Stephen, sy'n byw ar ei ben ei hun, roedd yn y lle iawn ar yr amser iawn. Roedd y Swyddog Diogelwch Chris Manfield a Rheolwr Gwasanaeth y Ganolfan Byd Gwaith Endaf Davies gerllaw a gwnaethon nhw weithredu heb oedi.
Dywedodd Chris Manfield:“Gwelais Stephen yn camu allan o’r lifft a sylweddolais nad oedd yn edrych yn dda o gwbl.
“Yn sydyn fe gwympodd yn anymatebol. Yn ffodus, roeddwn i wedi cwblhau fy hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol yn ddiweddar, felly roeddwn i'n teimlo'n ddigon hyderus i weithredu.
“Roeddwn i’n gwybod yn reddfol ei fod mewn ataliad y galon, felly ffoniais 999, dilynais gyfarwyddiadau’r triniwr galwadau a dechreuais CPR a gofynnais i Endaf nôl y diffibriliwr o fynedfa flaen y Ganolfan Byd Gwaith.
I Endaf Davies, dyma oedd ei brofiad cyntaf o argyfwng ataliad y galon a dywedodd: “Dydw i erioed wedi cael hyfforddiant CPR na diffibriliwr. Felly, pan ddes i â'r diffibriliwr draw, agorais y caead a dilynais y cyfarwyddiadau llais i roi sioc.
“Rwy’n dal i synnu heddiw, yn union fel o’n i bryd hynny, at ba mor hawdd oedd ei ddefnyddio.”
Gyda'i gilydd, perfformiodd Chris ac Endaf CPR am fwy na phum munud a rhoi dwy sioc diffibriliwr nes i'r Uwch Barafeddyg Stephen Bowles gyrraedd a chymryd yr awenau. Cyrhaeddodd criw ambiwlans yn fuan wedyn. Derbyniodd Stephen ofal brys ar y safle a chafodd ei gludo â golau glas i Ysbyty Treforys.
Dywedodd Stephen Bowles: “Yn anaml y mae criwiau ambiwlans yn cael y cyfle i gwrdd â’u cleifion eto, felly roedd cwrdd â Stephen - a oroesodd ataliad y galon - yn arbennig iawn i mi. Dw i'n meddwl ei fod yn falch hefyd, gan y gallwn i esbonio o safbwynt meddygol beth oedd wedi digwydd iddo'r diwrnod hwnnw.
Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd Stephen Booth: "Dydw i ddim yn cofio dim byd am y diwrnod hwnnw. Wnes i ddeffro yn Ysbyty Treforys saith diwrnod yn ddiweddarach a chlywed beth oedd wedi digwydd imi.
“Gwnes i aros yn yr ysbyty am bythefnos, ces i lawer o brofion, a chafodd un stent ei osod.
“Dw i mor ddiolchgar i griw’r ambiwlans a’r timau cardiaidd yn Ysbyty Treforys, ond fe wnaeth Chris ac Endaf wirioneddol helpu i ddechrau’r broses a achubodd fy mywyd.
“Ces i wybod yn ddiweddarach fy mod wedi derbyn CPR rhagorol, a oedd yn hanfodol i’m hadferiad. Byddwn i’n annog pawb i ddysgu’r sgiliau achub bywyd hyn.”
Yn ddiweddar, fe wnaeth Achub Bywyd Cymru ailuno Stephen â rhai o'r bobl a'i helpodd y diwrnod hwnnw, lle diolchodd iddynt a chyflwyno Tystysgrifau Canmoliaeth Gwylwyr. Mae bellach yn oroeswr balch o ataliad y galon.
Dywedodd Julie Starling, Rheolwr Clinigol Rhaglen Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty yng Nghymru: “Yn Achub Bywyd Cymru, rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i gydnabod gwylwyr fel Chris ac Endaf, y gwnaeth eu dewrder, eu tosturi a’u hymrwymiad helpu i achub bywyd Stephen.
"Rydym am adeiladu cenedl lle mae pobl yn teimlo'n hyderus i ffonio 999, dechrau CPR a defnyddio diffibriliwr pan fydd rhywun yn cwympo’n anymatebol ac nad yw’n anadlu'n normal."
“Ymyrraeth gyhoeddus yw’r unig ffordd y byddwn yn cynyddu nifer y bobl sy’n goroesi ataliad y galon yn y gymuned.”
Mae Achub Bywyd Cymru hefyd wedi cyfeirio Stephen at y wefan a'r llinell gymorth bwrpasol sy'n darparu cefnogaeth i bobl yn dilyn ataliad y galon.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan ataliad y galon ac angen cymorth, ewch i: www.resus.org.uk/public-resource/support-after-cardiac-arrest