Neidio i'r prif gynnwy

Datgelu rhestr fer Gwobrau WAST 2022

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi datgelu rhestr fer Gwobrau WAST blynyddol.

Cyflwynwyd mwy na 250 o enwebiadau ar draws un ar bymtheg o gategorïau, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Dysgu ac Arloesi ac Ysbrydoli Eraill.

Gwahoddwyd y cyhoedd i fwrw pleidlais mewn chwe chategori, tra bod panel o arweinwyr traws-wasanaeth a chynrychiolwyr staff yn pennu’r rhestr fer ar gyfer y lleill.


Cliciwch yma i ddatgelu rhestr fer Gwobrau WAST 2022.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Ni allem weithredu fel gwasanaeth oni bai am ein staff a’n gwirfoddolwyr, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn dathlu eu cyfraniadau.

“Yn aml, nid yw ein pobl yn sylweddoli bod yr hyn y maent yn ei wneud yn arbennig, felly mae Gwobrau WAST yn gyfle i oedi a myfyrio ar eu cyflawniadau a dweud diolch yn fawr.

“Roedd safon yr enwebiadau eleni yn wych, ac er bod pawb yn enillydd teilwng yn fy llygaid i, y rhestr fer yw’r
gorau o’n gorau.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad neu fwrw pleidlais, a llongyfarchiadau mawr i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer.”

Cyhoeddir yr enillwyr yng ngwobrau rhithwir WAST ddydd Iau 30 Tachwedd o 6.00pm-7.30pm.

Cliciwch yma i gofrestru am le ar Zoom, neu i wylio'r trafodion yn fyw ar dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth.

Defnyddiwch yr hashnod #WASTAwards22 i ymuno â'r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.

Nodiadau y Golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch yr Arbenigwr Cyfathrebu Liam Garrahan ar 07929065562 neu e- bostiwch Liam.Garrahan@wales.nhs.uk