08.10.26
Mae staff sy'n gweithio yn Gorsaf Ambiwlans Dock Penfro wedi cael eu symud dros dro i Ganolfan Iechyd Dock Penfro i ganiatáu i'r safle gael ei adnewyddu.
Disgwylir i'r gwaith i uwchraddio'r orsaf gymryd tua pum mis i'w gwblhau.
O ganlyniad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn symud dros dro nifer o glinigau a gynhelid yn y ganolfan iechyd i Ysbyty De Penfro.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, er y gallant weld mwy o ambiwlansys a cherbydau ambiwlans yn yr ardal leol dros yr wythnosau a misoedd nesaf, nad oes rheswm i boeni ac nad yw ein gwasanaethau wedi eu heffeithio gan y symudiad.
Dywedodd Matthew T Jones, Rheolwr Gwasanaeth (Dros Dro), Gweithrediadau Brys: “Rydym yn ddiolchgar i gydweithwyr yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ganiatáu i ni symud dros dro i Ganolfan Iechyd Doc Penfro.
“Bydd y gwaith adnewyddu yn gwella amgylchedd y gorsaf a’i chyfleusterau, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn parhau i gefnogi darparu gwasanaethau ambiwlans o fewn y gymuned leol.”