Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dathlu cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu ers tro yng Ngogledd Cymru

Mae staff sydd wedi gwasanaethu am gyfnod hir yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cael eu dathlu mewn digwyddiad yn Wrecsam.

Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr gyda 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth GIG ym Mhrifysgol Glyndŵr yn y chweched digwyddiad a’r olaf ledled Cymru eleni i gydnabod hyd gwasanaeth.

Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da y Frenhines hefyd i’r rhai sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys, sef medal a gastiwyd yn ystod teyrnasiad Ei Mawrhydi ond a gyflwynwyd gan Uchel Siryf Clwyd, Zoe Henderson, ar ran y Brenin.

Ymhlith y gwesteion arbennig eraill yn y digwyddiad ddoe roedd
Ben Savage, Prif Swyddog Gweithredu Ambiwlans Sant Ioan Cymru.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Mae ein Gwobrau Gwasanaeth Hir yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu enaid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – ei bobl – ac yn benodol, hyd eu gwasanaeth.

“Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Yn aml pan fo pobl ar eu trai isaf, ein staff ni yw’r bobl maen nhw’n troi atyn nhw, ac mae’n cymryd pobl ryfeddol i wneud y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud, o ddydd i ddydd.

“Mae'n syfrdanol meddwl bod yr holl Wobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym yn cyfrif am fwy na 500 mlynedd o wasanaeth.

“Heddiw a phob dydd, rydyn ni’n diolch i gydweithwyr am eu gwasanaeth.”

Mae mwy na 400 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi cael eu gwahodd i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni, y digwyddiadau gwobrwyo personol cyntaf ers 2019 oherwydd pandemig Covid-19.

Ychwanegodd y Cadeirydd Martin Woodford: “Y rheswm pam mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ei bobl sy’n gweithio’n ddiflino, 24/7, i wasanaethu pobl Cymru.

“Yr hyn sy'n arbennig am ddigwyddiadau eleni yw mai dyma'r tro cyntaf yn ein hanes i'n gwirfoddolwyr sydd wedi gwasanaethu ers tro gael eu cydnabod hefyd.

“Y llynedd, fe wnaethom lansio ein Strategaeth Gwirfoddolwyr gyntaf, sy'n nodi sut y bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi'n well i gyflawni eu rôl a'u hintegreiddio'n well i'r gweithlu.

“Roedd yn gwneud synnwyr perffaith, felly, i gydnabod eu hymrwymiad i bobl Cymru yn yr un ffordd ag yr ydym yn cydnabod staff.

“Llongyfarchiadau i bob un o’n derbynwyr.”


Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Pennaeth Cyfathrebu Lois Hough ar 07866887559 neu e- bostiwch Lois.Hough@wales.nhs.uk