MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru un annog pobl i gadw’n ddiogel y Noson Tân Gwyllt hon.
Yn draddodiadol, mae penwythnos Noson Tân Gwyllt yn gyfnod prysur iawn i’r gwasanaeth, gyda galwadau ychwanegol yn ymwneud â thân gwyllt a choelcerthi yn ychwanegu at y nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu trin gan griwiau a thrinwyr galwadau.
Gall llosgiadau ac anadlu mwg o dân gwyllt a choelcerthi fod yn ddifrifol, yn enwedig i’r rhai sydd â chyflyrau anadlol fel asthma.
Dywedodd Duncan Robertson, Parafeddyg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Clinigol yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Pan gânt eu defnyddio’n iawn, mae tân gwyllt yn ddiogel ar y cyfan ac mae modd osgoi damweiniau, ond os na ddilynir rhagofalon, gall arwain at anafiadau poenus i ormod o bobl.
“Wrth i ni fynd i mewn i’r penwythnos, bydd criwiau’n ymateb i gleifion gydag anafiadau sy’n amrywio o fân losgiadau i anafiadau mwy difrifol sy’n peryglu bywyd.
“Rydym ni am i bawb cael hwyl, ond rydym bob amser yn argymell bod pobl yn mynd i arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus sydd wedi’u trefnu’n broffesiynol.
“Os ydych chi’n cynnal eich digwyddiad eich hunain, sicrhewch mai diogelwch yw eich prif flaenoriaeth fel bod pawb yn ymwybodol o beryglon ac yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol.”
Dyma rai awgrymiadau diogelwch hanfodol ar gyfer Noson Tân Gwyllt a phleserus:
Dewis arddangosfeydd proffesiynol
Dewiswch fynychu arddangosfeydd tân gwyllt sydd wedi’u trefnu’n broffesiynol, gan eu bod yn opsiwn mwy diogel i bawb.
Os ydych chi’n trin llosgiad, dilynwch y camau canlynol
Symudwch y person i ffwrdd o’r gwres ar unwaith.
Oerwch y llosgiad gyda dŵr claear am 20 munud—osgowch ddefnyddio rhew, dŵr rhewllyd, hufenau neu sylweddau seimllyd.
Tynnwch ddillad neu emwaith ger y llosg i ffwrdd, ond peidiwch ag aflonyddu unrhyw beth sy’n sownd i’r croen.
Cadwch y person yn gynnes gyda blanced heb rwbio yn erbyn y llosg.
Gorchuddiwch y llosg gyda cling ffilm neu blastig glân a defnyddiwch gyffuriau lladd poen fel paracetamol neu ibuprofen ar gyfer lleddfu poen.
Awgrymiadau rheoli asthma
Cariwch eich anadlydd i fynd i’r afael yn gyflym ag unrhyw symptomau asthma a achosir gan aer myglyd.
Sicrhewch fod eich cymdeithion yn ymwybodol o beth i’w wneud a phryd i ofyn am help os bydd eich symptomau asthma yn gwaethygu.
Cadwch bellter diogel o’r goelcerth a byddwch yn ymwybodol o gyfeiriad y gwynt er mwyn osgoi anadlu gormod o fwg.
Defnyddiwch sgarff i orchuddio’ch ceg a’ch trwyn mewn tywydd oer, gan helpu i gynhesu’r aer cyn ei anadlu i mewn.
Ystyriwch aros dan do os yw tân gwyllt wedi achosi’ch asthma o’r blaen, yn enwedig os yw ansawdd aer yn wael.
Am gyngor ychwanegol ar reoli asthma a chadw’n ddiogel yn ystod arddangosfeydd tân gwyllt, ewch i’r dudalen Asthma ar wefan GIG 111 Cymru.
Parchu gweithwyr brys
Dangoswch barch ac ystyriaeth tuag at weithwyr brys ar Noson Tân Gwyllt, gan gydnabod eu hymroddiad i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Dywedodd Duncan: “Rydym yn gwybod bod galwadau i’r gwasanaethau brys yn cynyddu adeg Noson Tân Gwyllt, gydag adroddiadau o anafiadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thanau heb oruchwyliaeth.
“Mae ein criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond dydyn nhw ddim yn gallu brwydro dros fywyd rhywun arall os ydyn nhw’n brwydro dros eu bywydau eu hunain.
“Efallai nad oes gan ein criwiau unrhyw ddewis ond i adael lleoliad os yw eu diogelwch yn cael ei beryglu, ac nid yw hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un, yn enwedig y claf.
“Gall gweithred dreisgar hanner-eiliad gael effaith ddinistriol a hirdymor ar ein staff, yn gorfforol ac yn emosiynol.
“Nid yw’r ddyled sydd arnom i’n gweithwyr brys erioed wedi bod yn fwy, felly nawr yn fwy nag erioed, rydym yn gofyn i’r cyhoedd weithio gyda ni, nid yn ein herbyn.
“Gadewch i ni wneud Noson Tân Gwyllt hon yn achlysur cofiadwy a diogel drwy flaenoriaethu ein lles a lles pobl eraill.
“Mwynhewch y dathliadau yn gyfrifol a mwynhewch Noson Tân Gwyllt gwych.”
Nodiadau gan y golygydd
Am fwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Swyddog Cyfathrebu jeff.prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.