Neidio i'r prif gynnwy

Mae Steve yn cysgu allan i gyn-filwyr digartref

MAE GWERTHWR a drodd yn Gynorthwyydd Gofal Ambiwlans wedi cymryd rhan mewn sesiwn cysgu allan i godi arian ar gyfer cyn-filwyr digartref.

Cymerodd Steve Oliver, 53, ran yn The Great Tommy Sleep Out , her codi arian a osodwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol i godi ymwybyddiaeth a chefnogi’r amcangyfrif o 6,000 o gyn-filwyr sy’n profi digartrefedd.

Mae Steve, cyn-ringyll y Fyddin, a aeth ar daith i Bosnia, Gogledd Iwerddon a Chanada, bellach yn gweithio fel Cynorthwyydd Gofal Ambiwlans yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Meddai: “Mae The Great Tommy Sleep Out yn eich annog i gysgu allan o dan y sêr i godi arian ar gyfer y cyn-filwyr mwyaf bregus. 

“Felly, gosodais fy nghadair a sach gysgu a gwersylla am 24 awr.

“Fe wnes i leoli fy hun yn The Memorial Tommy Wall, St Anne's yng Nghastell-nedd o 10.00am ddydd Sadwrn tan 10.00am ddydd Sul.

“Nid oedd yr her o bell ffordd yn ailadrodd yr hyn y mae rhai pobl yn ei brofi bob dydd.

“Ond fe roddodd syniad bach iawn ohono i mi.”

Roedd Steve, sy’n dad i ddau ac yn dad-cu i un, yn aelod o’r Lluoedd Arfog o 1989-2003, gan ddechrau ei yrfa yn yr Heddlu Milwrol Brenhinol, cyn symud i’r Intelligence Corp ac yn ddiweddarach dod yn Sarjant.

Parhaodd: “Gan fy mod yn gyn-filwr, rwy’n deall nad oes llawer o bobl yn gadael y Lluoedd Arfog heb ryw fath o greithiau.

“Rwy’n gwybod bod yna linell denau iawn o fod lle rydw i nawr i ble mae eraill, gan gynnwys y rhai sy’n canfod eu hunain yn ddigartref.

“Pan gefais fy rhyddhau o’r fyddin, roeddwn yn ei chael hi’n anodd iawn addasu ac yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

“Oni bai am gefnogaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol a fy nheulu, dydw i ddim yn siŵr beth fyddai wedi digwydd.

“Dyma fy rhan fach i i roi yn ôl.

“Yn ystod y 24 awr, ymwelodd dros 60 o aelodau’r cyhoedd â mi, felly cefais ddigonedd o roddion a sgyrsiau am y Lleng Brydeinig Frenhinol. 

“Ac yn anad dim, roedden nhw’n amrywio o 10 oed i 91 oed.

“Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael wedi bod yn brofiad gwirioneddol ostyngedig.”

Mae’r Great Tommy Sleep Out yn parhau drwy gydol mis Mawrth, gyda’r holl elw yn mynd i’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Dywedodd Arwyn Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a rheolwr Steve: “Rydym i gyd yn falch iawn o Steve a’i ymdrechion i godi arian ac ymwybyddiaeth o’r miloedd o gyn-filwyr digartref.

“Mae Steve yn gyn-filwr ac rwy’n gwybod pa mor angerddol yw e am yr achos hwn, ac mae cysgu allan am 24 awr yn dangos ei benderfyniad llwyr.”

Gallwch barhau i gyfrannu drwy ymweld â thudalen codi arian Steve yma.

Nodiadau y Golygydd

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn cefnogi personél sy'n gwasanaethu a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog drwy gydol y flwyddyn, bob dydd o'r wythnos.
Mae eu cefnogaeth yn dechrau ar ôl un diwrnod o wasanaeth ac yn parhau trwy fywyd, ymhell ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben: https://www.britishlegion.org.uk/

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Beth.Eales@wales.nhs.uk neu ffoniwch Beth ar 07870 383209.