MAE DYN o Falpas a gafodd ataliad ar y galon yn ei siop barbwr leol yn Casnewydd wedi diolch i’w wraig, y gwylwyr a’r criw ambiwlans a achubodd ei fywyd.
Pan lewygodd Adrian Wilkins wrth aros i gael toriad gwallt, ei wraig graff Sandra oedd yr un a ddechreuodd y gadwyn o oroesi.
Cyflwynodd Sandra, cyn-weithiwr cymorth gofal iechyd ar uned bediatrig gydag 20 mlynedd o wasanaeth GIG, gywasgiadau ar y frest i'w gŵr ar lawr y siop barbwr wrth i gwsmeriaid yn mynd i nôl y diffibriliwr agosaf.
Dywedodd: “Roedd popeth yn normal y diwrnod hwnnw.
“Roedden ni wedi bod allan yn siopa ac yn gwneud cwpl o dasgau cyn picio i mewn i siop Levi’s Barbers er mwyn i Adrian gael torri ei wallt.
“Sylwais nad oedd rhywbeth yn iawn ac ar ôl sbasm byr, sylweddolais nad oedd e’n anadlu.
“Ciciodd fy hyfforddiant i mewn a dechreuais roi CPR i Adrian ar unwaith.
“Yn ffodus, roedd yna gwsmeriaid yn y siop yn ogystal â’r perchennog a sylweddolodd pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa a daeth yn rhuthro draw i helpu.
“Cymerodd Ethan, perchennog Levi’s Barbers y ffôn oddi wrthyf a chyfleu gwybodaeth i’r triniwr galwadau ambiwlans tra rhedodd y cwsmer i’r fferyllfa gyfagos i gael diffibriliwr.”
Ar ôl clywed beth oedd yn digwydd, daeth y fferyllydd hefyd i roi cymorth a chymryd drosodd rhoi cywasgiadau ar y frest.
Arweiniodd Anna Ashford, triniwr galwadau brys 999 yn Cwmbran, Sandra, Ethan a’r cwsmer drwy CPR wrth dawelu’u meddyliau hefyd bod cymorth ar ei ffordd ac y byddai criw gyda nhw yn fuan.
Dywedodd Anna: “Rwy’n cofio’r alwad yn fyw gan fod yr wybodaeth gychwynnol yn awgrymu bod Mr Wilkins wedi dioddef fel sbasm neu drawiad ond daeth yn amlwg yn gyflym ei fod yn llawer mwy difrifol ac nad oedd yn anadlu.
“Ar ôl i mi sylweddoli ei fod yn dioddef trawiad ar y galon, dechreuais ar unwaith gyfarwyddo Sandra, Ethan a’r cwsmer arall ar sut i roi CPR yn gywir.
“Ar ôl ychydig funudau dechreuodd Adrian ymateb ond roedd yn amlwg o’r wybodaeth roeddwn i’n ei dderbyn gan y rhai yn y siop nad oedd yn anadlu’n effeithiol o hyd felly gwnes i’n siŵr eu bod nhw’n parhau gyda’r cywasgiadau ar y frest nes i naill ai diffibriliwr neu i’n criw gyrraedd y lleoliad.
“Fe wnes i aros ar y lein gyda nhw a gwneud yn siŵr bod Adrian yn parhau i dderbyn y gofal angenrheidiol cyn gadael yr alwad o’r diwedd unwaith i mi gael cadarnhad bod ein criw gyda nhw.”
Dywedodd Sandra: “Yn ffodus, fe gyrhaeddodd y criw ambiwlans yn gyflym iawn, cyn i ni allu defnyddio’r diffibriliwr yr oedd y bachgen arall wedi rhedeg i’w nôl ac fe wnaethon nhw gymryd yr awenau wedyn.
“Roedd yn rhyddhad aruthrol pan gyrhaeddodd y criw a dim ond wedi hynny y dechreuodd pethau suddo i mewn oherwydd tra roedd y cyfan yn digwydd, doedd gen i ddim amser i'w brosesu mewn gwirionedd.
Meddai parafeddyg Dave Towers a Technegydd Meddygol Brys Mike Morelli ” Wrth fynd i mewn i'r siop barbwr gwelsom Mr Wilkins ar y llawr yn cael CPR.
“Fe gymerodd Dave yr awenau o ran rheoli’r llwybr anadlu wrth i mi gysylltu’r diffibriliwr Ambiwlans cyn rhoi CPR pellach.
“Cyrhaeddodd ein cydweithiwr, cynorthwy-ydd gofal ambiwlans Dane Parry yn fuan wedyn ac yna, Parafeddyg Uned Ymateb Acíwt Uchel Cymru, Rob Horton i ddarparu cymorth ychwanegol a chael manylion am gefndir y digwyddiadau wrth baratoi ar gyfer trosglwyddo yn Ysbyty Athrofaol y Grange.
“Yna gwnaeth Rob a Dane y paratoadau i symud Mr Wilkins i’r ambiwlans.
“Cafodd Mr Wilkins ddwy sioc yn y fan a’r lle, ac ar ôl hynny daeth yn fwy sefydlog a chafodd ei drosglwyddo i’r ambiwlans a’i gludo i’r ysbyty.”
Treuliodd Adrian dair wythnos yn ysbyty Prifysgol Grange, lle gosodwyd diffibriliwr cardiofertaidd wedi ei fewnblannu (ICD) arno hefyd.
Dywedodd: “Does gen i ddim cof o gwbl o’r digwyddiad a’r cyfan dwi’n ei gofio yw deffro wedyn.
“Ro’n i’n teimlo fel pêl rygbi yng nghanol sgrym oherwydd yr holl bobl oedd o’m cwmpas ac yn gofalu amdana’ i.
“Mae fy niolch dyfnaf yn mynd allan i bawb a chwaraeodd ran, a byddaf yn ddiolchgar am byth i bawb a achubodd fy mywyd.”
Roedd Adrian, sydd â thri o blant a phedwar o wyrion, yn 69 ar adeg yr ataliad ar y galon ym mis Tachwedd ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed gyda Sandra, ei briod ers 32 mlynedd.
Pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon, maen nhw’n llewygu ac yn mynd yn anymatebol.
Maen nhw naill ai'n stopio anadlu'n llwyr, neu efallai y byddant yn anadlu’n drwm neu'n anadlu’n anaml am rai munudau, y gellir eu camddehongli fel chwyrnu.
Os ydych chi’n gweld rhywun yn cael ataliad ar y galon, ffoniwch 999 a dechreuwch CPR ar unwaith.
Yn ogystal, bydd diffibriliwr yn rhoi sioc drydan wedi'i reoli i geisio cael y galon i guro'n normal eto.
Bydd triniwr galwadau ambiwlans yn dweud wrthych ble mae eich diffibriliwr agosaf.
Mae Cyngor Dadebru’r DU wedi cynhyrchu canllaw cam wrth gam ar wneud CPR:
Sut i wneud CPR | Cyngor Dadebru’r DU
Rhaid i bob diffibriliwr newydd a phresennol fod wedi’i gofrestru ar y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol The Circuit er mwyn i drinwyr galwadau 999 allu gweld eu lleoliad:
The Circuit - y rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid trydydd sector i ymdrechu i gyflawni’r Cynllun ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru.
Nodiadau gan y golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.