Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Canser y Byd: Stori Paul

MAE UN o arweinwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a ddarganfu fod ganddo ganser yn annog pobl i ddysgu am yr arwyddion a'r symptomau.

Dechreuodd Paul Hollard ei yrfa gyda’r GIG fel nyrs gofrestredig ac athro nyrsio ac aeth ymlaen i fod yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg ac yn ddiweddarach yn Brif Weithredwr Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro cyn iddo ymddeol o’r GIG yn llawn amser yn 2015.

Bellach yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn y gwasanaeth ambiwlans, cafodd Paul ddiagnosis o ganser y brostad yn 2022 ar ôl i’w ffrindiau ei annog i geisio cyngor meddygol.

Dywedodd Paul: “Roeddwn i allan gyda ffrindiau a gofynnodd un ohonyn nhw mewn sbort beth oedd wedi cymryd cymaint o amser i mi ddefnyddio'r toiled.

“Ro’n i’n cael trafferth troethi ond mi wnes i chwerthin ar ben hwnna a dweud ei fod oherwydd henaint a dim byd arall achos, ar wahân i gymryd mwy o amser nag arfer, roeddwn i’n teimlo’n ffit ac yn iach.

“Roedd un ffrind penodol yn gwybod o brofiad mai trafferth troethi oedd un o symptomau posib canser y brostad, ar ôl gweld un o’i berthnasau ei hun yn dioddef o’r cyflwr.

“Arhosais yn ddiystyriol am gyfnod hir, ond ni fyddai’n gadael i’r mater fynd ac yn y pen draw fe’m perswadiodd i ymweld â’m meddyg teulu a gofyn am brawf gwaed antigen penodol i’r brostad (PSA).

“Er na ddangosodd canlyniadau’r prawf PSA lefelau antigen rhy uchel, dangosodd archwiliad o fy mhrostad ei fod wedi’i chwyddo ac y byddai angen biopsi. Cefais fy rhoi ar atgyfeiriad llwybr cyflym i Wroleg a chadarnhaodd Delweddydd Atseiniol Magnetig  (MRI) fod tiwmor.

“Cymerodd canlyniadau’r biopsi amser hir i ddod yn ôl, ac roedd yr aros yn amser pryderus ac anodd iawn i mi a fy nheulu.

“Yn anffodus, cadarnhaodd y canlyniadau ein hofnau gwaethaf, a chefais ddiagnosis ffurfiol o ganser y brostad a dywedwyd wrthyf y byddai angen sganiau pellach arnaf i weld a oedd y canser wedi lledaenu i unrhyw rannau eraill o fy nghorff.”

Atgyfeiriwyd Paul am sgan PET (Tomograffeg Gollwng Positronau), a ddatgelodd fod y canser wedi lledaenu i'w asgwrn cefn a'i belfis.

Dywedodd: “Roedd hynny’n anodd iawn i’w glywed, yn enwedig o ystyried pa mor hyderus oeddwn i ar ddechrau’r broses pan oeddwn i mor siŵr mai henaint oedd hi’n dal i fyny â mi.

“Esboniodd fy oncolegydd, oherwydd bod y canser wedi lledu, ei fod eisoes ar gam pedwar, a byddai angen i mi ddechrau cyfuniad o radiotherapi a thriniaeth hormonau ar unwaith.

“Ar wahân i ddioddef o byliau o wres a mwy o flinder, mae’n ymddangos fy mod wedi ymateb yn dda i’r driniaeth ac er y bydd yn rhaid i mi barhau â’r therapi hormonau am weddill fy oes, rwy’n teimlo’n llawer mwy cadarnhaol am y dyfodol erbyn hyn.”

Er gwaethaf yr ymateb cadarnhaol i’w driniaeth ar gyfer canser y brostad, cafodd Paul ergyd arall pan ddaeth o hyd i friw bach ar ei wddf a gofynnodd iddo gael ei wirio.

Dywedodd: “Wnes i ffeindio'r briw a meddyliais y byddai'n well i mi gael golwg arno o ystyried fy mhrofiad blaenorol a gwybod y byddai oedi cyn cael ei wirio yn gamgymeriad mawr pe bai'n troi allan i fod yn rhywbeth difrifol.

“Cefais fy anfon unwaith eto am atgyfeiriad brys i Ddermatoleg, ac fel gyda’r tro cyntaf, nid y newyddion oedd yr hyn yr oeddem wedi gobeithio amdano, a chefais ddiagnosis o ganser y croen.

“Gwnaeth y meddyg fy hysbysu o’r newyddion a dywedodd y byddai angen cael gwared ar y briw trwy lawdriniaeth ac unwaith y byddai hyn wedi’i wneud, byddai angen monitro a phrofi ychwanegol arnaf i weld a oedd angen unrhyw driniaeth bellach.”

Mae Paul, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 66 heddiw, bellach yn gwella ac yn edrych ymlaen at ei ymddeoliad o Wasanaethau Ambiwlans Cymru ym mis Mawrth ac at dreulio mwy o amser gyda’i deulu a’i ffrindiau.

Mae'n gobeithio, trwy rannu ei stori, y bydd pobl eraill yn adnabod yr arwyddion cynnar o ganser ac yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw, cyn ei bod hi'n rhy hwyr, pa mor chwithig bynnag maen nhw'n meddwl y gallai fod i godi mater.

I gael rhagor o wybodaeth am ganser y brostad, y croen a mathau eraill o ganser, ewch i: https://www.macmillan.org.uk/cancer-information-and-support

Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk  neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.