02.12.24
MAE’R FAM i un a gafodd ataliad ar y galon ym maes awyr Caerdydd wedi diolch i’r rhai a achubodd ei bywyd.
Roedd Alice Mogford, 48, o Gastell-nedd, newydd lanio yn ôl o daith i Belfast pan lewygodd yn neuadd cyraeddiadau a stopiodd anadlu.
Dechreuodd y staff gwyliadwrus roi CPR i Alice a rhoddodd sioc iddi gyda diffibriliwr cyn i’r gwasanaeth ambiwlans cyrraedd.
Rhoddodd y criwiau ambiwlans cymorth bywyd uwch i Alice a’i chludo i’r ysbyty, lle cafodd lawdriniaeth a threuliodd chwe wythnos yno yn gwella.
Dywedodd Alice: “Hoffwn gyfleu fy niolch diffuant i bawb a fu’n ymwneud ag achub fy mywyd.
“Rwy’n gwybod nawr bod y gyfradd goroesi ar gyfer ataliadau ar y galon yn isel iawn, felly am wn i, ro’n i yn y lle iawn ar yr amser iawn.
“Maen nhw’n haeddu pob clod yn y byd.”
Roedd Alice a’i phartner Neil Evans, 60, ei merch Shannon, 20, a’r wyres pedwar mis oed, Siobhan-Rose, wedi bod yn ymweld ag ardal enedigol Alice yn Belfast, ynghyd ag ewythr Alice, Paddy Leonard.
Munudau ar ôl iddynt lanio yn ôl yng Nghaerdydd, aeth Alice yn sâl.
Dywedodd Neil: “Cafodd Alice ychydig o anghysur ar yr awyren, ond rhywbeth bach neu ddim byd ro’n ni’n meddwl oedd e.
“Yna wrth i ni ddod oddi ar yr awyren a cherdded trwy adeilad y derfynfa, gwnaeth hi jyst cwympo tuag yn ôl i’r llawr.
“Diolch byth, roedd ganddi sach deithio ar ei chefna’i chlustogodd i gwympo arno, fel arall fe allai fod wedi cael anaf difrifol i’w phen hefyd.”
Dywedodd Alice, sy’n rheolwr swyddfa: “Does gen i ddim cof o beth ddigwyddodd, ond mae’n debyg, roeddwn i’n cwyno am boen yn y frest ar yr awyren.
“Y peth nesaf dwi’n gwybod roeddwn i’n deffro yn yr ysbyty yn teimlo’n niwlog.
“Dw i dal ddim yn meddwl fy mod i wir wedi prosesu’r hyn a ddigwyddodd.”
Dechreuodd swyddogion cymorth cyntaf ar y safle y ‘gadwyn goroesi’ drwy roi cywasgiadau ar y frest i Alice a rhoi tair sioc gyda diffibriliwr, a’r anfonwr awyrennau Chloe Hobbs oedd yn cydlynu’r safle.
Digwydd bod, roedd Chloe wedi cwblhau ei hyfforddiant Ymatebwyr Lles Cymunedol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fis ynghynt.
Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol wedi’u hyfforddi i fynychu galwadau 999 priodol yn eu cymuned ac i gymryd cyfres o arsylwadau i helpu clinigwyr yn ystafell reoli’r ambiwlans i benderfynu ar y camau nesaf priodol.
Gallai hynny olygu anfon ambiwlans, atgyfeiriad at feddyg teulu’r claf, cyngor hunanofal neu rywbeth arall.
Dywedodd Chloe: “Roedd y cyfan yn hollol annisgwyl.
“Roedd yr olaf o’r teithwyr newydd ddod oddi ar yr awyren felly es i ar y radio at fy nghydweithwyr yn adeilad y derfynfa.
“Y funud nesaf, clywais sgrech, felly rhedais i mewn i'r neuadd gyrraedd a gweld Alice ar y llawr.
“Rhoddodd Neil a minnau hi yn y safle adfer a cheisio sicrhau bod ei llwybrau anadlu’n glir, a chyrhaeddodd ein swyddogion cymorth cyntaf ar y safle ar ôl ychydig funudau.
“Gwaethygodd cyflwr Alice yn gyflym, ac wrth i adran dân y maes awyr gyrraedd, fe stopiodd anadlu a mynd i ataliad y galon.
“Roedd ymateb cyflym ymatebwyr cyntaf y maes awyr yn caniatáu iddyn nhw ddechrau cywasgiadau ar y frest ar unwaith, ac o fewn 40 eiliad roedd diffibriliwr ynghlwm, a oedd yn rhan hanfodol o oroesiad Alice.
“Roedd gweld pawb yn cydweithio i roi’r gofal gorau posibl i Alice yn wirioneddol anhygoel.”
Derbyniodd Julia Donaldson, triniwr galwadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr alwad 999, a’r cynorthwywyr gofal brys Lance Davies a Danielle Prince oedd y cyntaf i gyrraedd.
Fe’u cefnogwyd gan barafeddyg Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru Vickie Duance, uwch barafeddygon Laura Deabreu a William Moore a thechnegydd meddygol brys Owen Thomas.
Darparwyd cymorth gofal critigol uwch gan Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru, ymgynghorwyr medrus iawn ac ymarferwyr gofal critigol sy'n gweithio ar hofrenyddion a cheir elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Cludwyd Alice i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn ddiweddarach i Ysbyty Treforys, Abertawe, lle gosodwyd diffibriliwr-cardiaidd mewnblanadwy (ICD) iddi, dyfais sy’n cael ei phweru gan fatri sy’n canfod curiadau calon afreolaidd ac yn darparu siociau trydan i adfer rhythm calon rheolaidd.
Ar ôl arhosiad chwe wythnos yn yr ysbyty, mae hi bellach yn gwella gartref ac yn annog y cyhoedd i ddysgu CPR.
Dywedodd Alice: “Rwy’n deall sut y byddai’r cyhoedd yn ‘rhewi’ yn y sefyllfa honno, ond ar ôl byw trwy hyn yn uniongyrchol, fy neges yw na allwch chi wneud mwy o ddifrod o bosibl, felly rhowch gynnig ar CPR.”
Ychwanegodd Neil: “Bydd diffibriliwr yn dweud wrthych yn llythrennol beth i’w wneud, felly hyd yn oed os nad ydych erioed wedi defnyddio un o’r blaen, dilynwch yr awgrymiadau llais.”
Pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, maen nhw’n llewygu ac yn mynd yn anymatebol.
Maen nhw naill ai'n stopio anadlu'n llwyr, neu efallai y byddan nhw’n allan o wynt neu'n anadlu’n anaml am rai munudau, y gellir eu camddehongli fel chwyrnu.
Os gwelwch rywun yn cael ataliad ar y galon, ffoniwch 999 a dechreuwch CPR.
Mae Cyngor Dadebru'r DU wedi cynhyrchu canllaw cam wrth gam ar wneud CPR:
Sut i wneud CPR | Cyngor Dadebru’r DU
Bydd y triniwr galwadau ambiwlans hefyd yn dweud wrthych ble mae eich diffibriliwr agosaf.
Mae’n rhaid i bob diffibriliwr newydd a phresennol fod wedi’i gofrestru ar y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol The Circuit er mwyn i’r triniwr galwadau 999 allu gweld eu lleoliad:
The Circuit - y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol