Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn lansio menter 'ffôn coch' mamolaeth

23.09.24

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno system newydd i rybuddio staff ysbytai ymlaen llaw am argyfyngau mamolaeth.


Mae’r fenter ‘ffôn coch’ yn galluogi criwiau ambiwlans i ragrybuddio unedau mamolaeth am argyfyngau obstetreg sy’n hanfodol o ran amser fel bod timau derbyn yn barod i’r claf gyrraedd.

Mae'r sgyrsiau rhwng clinigwr trwy linell ffôn bwrpasol wedi'u cynllunio i symleiddio cyfathrebu rhwng criwiau ambiwlans a staff ysbytai a gwella gofal y claf ymhellach.

Dywedodd Bethan Jones, Hyrwyddwr Diogelwch Amenedigol a Bydwraig gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae pob eiliad yn cyfrif mewn argyfwng, felly po fwyaf o wybodaeth y gallwn ni ei throsglwyddo i’r uned famolaeth, gorau oll gallen nhw baratoi drwy alw’r clinigwyr cywir i mewn a threfnu popeth sydd angen arnynt er mwyn darparu gofal brys.

“Mae’r ffôn coch yn ein galluogi i wneud yn union hynny, gan weithredu fel un pwynt mynediad i unedau obstetreg, gwella cyfathrebu a fydd yn ei dro yn ein galluogi i ddarparu gofal amserol o ansawdd uchel i’r claf a’i faban.

“Roedd adroddiad Corff Ymchwiliadau Diogelwch y Gwasanaethau Iechyd a gyhoeddwyd yn 2022 yn tanlinellu pwysigrwydd y broses rhagrybuddio mewn sefyllfaoedd mamolaeth amser-gritigol, ac mae’r gwaith hwn yn cefnogi dull rhagweithiol a arweinir gan systemau o ddatblygu datrysiadau.”

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw’r pedwerydd bwrdd iechyd yng Nghymru i ymuno â’r fenter, gan ymuno â Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg.

Dywedodd Cerian Llewellyn, Pennaeth Bydwreigiaeth Dros Dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae iechyd, diogelwch a lles y menywod sy’n rhoi genedigaeth yn ein gofal wrth galon yr hyn a wnawn.

“Rydyn ni bob amser yn edrych ar ffyrdd o feithrin ymddiriedaeth a sicrhau bod y menywod ‘dyn ni’n gofalu amdanyn nhw a’u teuluoedd yn cael y profiad gorau oll yn ystod eu hamser gyda ni.

“Mae menter y ffôn coch yn ein cefnogi i wella cyfathrebu effeithiol rhwng y clinigwyr yn yr uned famolaeth a’n cydweithwyr yn WAST ac mae’n helpu i sicrhau gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan ohono.

“Mae menter y ffôn coch yn golygu y gallwn fod wedi paratoi’n dda ar gyfer unrhyw fenywod sy’n esgor sy’n dod atom sydd angen cymorth meddygol mwy cymhleth tra byddant yn rhoi genedigaeth.”

Gwneir galwadau gan griwiau ambiwlans yn uniongyrchol i unedau obstetreg trwy ap Consultant Connect.

Dywedodd Jonathan Patrick, Prif Weithredwr Consultant Connect: “Bydd y fenter ffôn coch hon yn golygu bod ysbytai yng Nghymru wedi’u paratoi’n dda ar gyfer sefyllfaoedd obstetreg brys, gan roi’r gofal gorau posibl i rieni a’u babanod pan fyddan nhw’n wynebu problemau annisgwyl.

“Rydyn ni wastad wedi gwybod bod GIG Cymru yn ymrwymedig i wella cyfathrebu clinigol, a dyma enghraifft arall eto o sut y mae’n gwella gofal cleifion drwy wneud yn siŵr bod clinigwyr yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw mewn modd amserol.

“Ry’n ni’n yn falch o weithio gyda nhw.”

Y protocol ffôn coch yw’r fenter ddiweddaraf a gyflwynwyd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i wella’r gofal y mae’n ei ddarparu i rieni newydd, eu babanod a’u teuluoedd.

Mae gan bob ambiwlans a char ymateb yn fflyd yr Ymddiriedolaeth siwtiau ‘Neo-HeLP’ i gadw babanod newydd-anedig yn gynnes.

Mae'r siwt achludol polyethylene, y mae babanod yn cael eu rhoi ynddo yn syth ar ôl cael eu geni, wedi'i chynllunio i atal hypothermia babanod newydd-anedig.

Y llynedd, enillodd yr Ymddiriedolaeth ddwy wobr yn seremoni wobrwyo gyntaf PROMPT (Hyfforddiant Aml-broffesiynol Ymarferol Obstetreg) Cymru.

Enillodd y parafeddyg Lisa O’Sullivan, Arweinydd Clinigol y Bwrdd Iechyd yng Nghaerdydd a’r Fro a hwylusydd PROMPT Cymru, y Wobr Partneriaeth a Chydweithredol.

Yn y cyfamser, roedd y Parafeddyg Ymgynghorol a’r Arweinydd Clinigol Rhanbarthol Steve Magee yn ail yng nghategori Cefnogi Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru.

Yn 2021, arweiniodd Steve y cyflwyniad ‘pocedi cwtsh’ wedi’u gwau â llaw fel y gall babanod marwanedig gael eu cludo i’r ysbyty gyda thosturi.