MAE MENYW o Wrecsam a ddioddefodd argyfwng meddygol a oedd yn bygwth bywyd wedi diolch i’r criw ambiwlans a achubodd ei bywyd.
Pan aeth Carol Hughes, 62, yn sâl yn ei chartref, ni sylweddolodd pa mor ddifrifol oedd ei chyflwr.
Roedd Carol, sy'n fam i ddau o blant ac sydd â hanes o anemia a achosir gan ddiffyg haearn, yn meddwl i ddechrau bod ei blinder sydyn, ei chyfog a'i syrthni o ganlyniad i'w chyflwr.
Ond dim ond pan ddechreuodd hi chwydu gwaed y daeth yn amlwg bod rhywbeth mwy difrifol ar ddigwydd.
Dywedodd Carol: “Roedd popeth yn normal y diwrnod hwnnw, roedden ni wedi cael teulu draw yn y tŷ ac roedden ni newydd ollwng ein mab adref yn Lerpwl.
“Ar y ffordd yn ôl, stopiais i a fy ngŵr Brian am luniaeth, a ches i siocled poeth.
“Yn ddiweddarach y noson honno, dechreuais i chwydu ac oherwydd y lliw, roeddwn i’n meddwl mai’r siocled poeth oedd yn dod yn ôl i fyny.”
Yn ffodus, roedd merch Carol, Kate Hughes, nyrs asesu brysbennu ar gyfer gwasanaeth GIG 111 Cymru, wedi lleoli yng Nglannau Dyfrdwy, yn y cartref teuluol a sylweddolodd ar unwaith fod rhywbeth o'i le.
Dywedodd Kate: “Roedd mam yn ymddangos braidd yn ffwndrus a dryslyd ac roedd yn cael trafferth gwneud pethau sylfaenol.
“Pan welais i hi’n chwydu, sylwais ar y lliw a sylweddoli mai chwydu gwaed oedd hi, nid siocled poeth.
“Fe wnaethon ni ffonio ein meddyg teulu a disgrifio’r sefyllfa, a dywedon nhw wrthym fynd i’n hadran achosion brys agosaf ar unwaith.”
Fodd bynnag, ar y pwynt hwn roedd Carol wedi mynd mor sâl doedd hi ddim hyd yn oed yn gallu rhoi ei hesgidiau ei hun ymlaen.
Mae Carol yn cofio gorwedd ar y soffa am ychydig funudau, ond y gwir oedd ei bod wedi mynd yn anymwybodol.
Roedd ei merch Kate wedi galw am ambiwlans.
Dywedodd Carol: “Wrth edrych yn ôl nawr, mae'n amlwg fy mod wedi mynd yn anymwybodol, a phan wnes i ddeffro, roedd y criw ambiwlans eisoes yn fy nghartref ac wedi dechrau fy nhrin”.
Roedd parafeddyg Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gavin Jones, a Thechnegydd Meddygol Brys, David Reese, ar y ffordd i ddigwyddiad arall yn wreiddiol ond cawson nhw eu dargyfeirio i gyfeiriad Carol oherwydd natur ei chyflwr a oedd yn fygythiad uniongyrchol i'w bywyd.
Cyrhaeddon nhw'r lleoliad dim ond wyth munud ar ôl i'r alwad gychwynnol gael ei derbyn.
Dywedodd Gavin, parafeddyg ers dros 20 mlynedd ac sydd wedi’i leoli yn Nolgellau: “Ar ôl cyrraedd, roedd Carol yn welw, yn oer a llaith ac yn dangos arwyddion clasurol o sioc hypovolemig.
“Ar ôl rhoi meddyginiaeth iddi i geisio atal y chwydu, aethon ni ar ein ffordd yn gyflym i’r adran achosion brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
“Gwaethygodd Carol yn fuan ar ôl cyrraedd ac ar ôl cysylltu â’r nyrs brysbennu, cytunodd i gynnal gwiriadau ychwanegol ar Carol yng nghefn yr ambiwlans.
“O ganlyniad i’r gwiriadau, cafodd Carol ei chludo’n syth i’r adran dadebru.”
Treuliodd Carol bum niwrnod yn Ysbyty Maelor Wrecsam a chafodd ddiagnosis o wythiennau chwyddedig gastro-oesoffagaidd, cyflwr meddygol difrifol iawn a all fod yn angheuol oherwydd y ffaith bod y gwaedu yn aml yn sydyn ac yn ddifrifol.
Cafodd Carol ddwy rownd o lawdriniaeth i atal y gwaedu trwy driniaeth a elwir yn 'fandio' lle defnyddir bandiau bach i gau'r gwythiennau sydd wedi rhwygo.
Dywedodd Kate: “Gan fy mod yn nyrs brysbennu, ro’n i'n gwybod pa mor ddifrifol oedd cyflwr fy mam, ond dim ond wedi hynny y dechreuodd wir suddo i mewn.
“Dw i’n hynod ddiolchgar i’r criw am eu hymyrraeth gyflym ac am y ffordd y gwnaethant barhau i eirioli dros fy mam, hyd yn oed ar ôl cyrraedd yr adran achosion brys.
“Fe wnaethant arsylwi’n gyson ar fy mam a phan ddechreuodd hi ddirywio, aethant i mewn i’r adran achosion brys a gwneud yn siŵr bod y staff y tu mewn yn gwybod bod pethau’n gwaethygu.”
Mae Carol, sy'n dal i ddioddef rhywfaint o anghysur yn dilyn y digwyddiad, bellach yn gwella'n dda gartref gyda'i gŵr Brian, sy’n rheolwr banc wedi ymddeol.
Dywedodd Carol: “Bydda i’n fythol ddiolchgar i Gavin a David, y criw gwych a ddaeth i fy nghymorth y diwrnod hwnnw.
“Does gen i ddim amheuaeth eu bod wedi achub fy mywyd a heb eu cymorth, fydda i ddim yma nawr.”
Fel arfer mae gwythiennau chwyddedig gastro-oesoffagaidd (sef yn yr oesoffagws) yn gysylltiedig â sirosis ac mae angen sylw meddygol brys arnynt.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyflwr, gan gynnwys symptomau a thriniaeth, ewch i: https://111.wales.nhs.uk/cirrhosis/
Nodiadau gan y golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.