25.04.2025
MAE TÎM o glinigwyr o bell Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dathlu degawd o helpu galwyr 999 i gael y cymorth mwyaf priodol.
Mae parafeddygon, nyrsys a chlinigwyr iechyd meddwl yn ffurfio Desg Gymorth Clinigol yr Ymddiriedolaeth, y tîm Cymru gyfan sy’n ymgynghori ac yn asesu cleifion dros y ffôn a thrwy fideo i gael y cymorth cywir i gleifion ar gyfer eu hanghenion, yn aml heb fod angen anfon ambiwlans.
Mae'r tîm yn lleihau'n ddiogel nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty yn ddiangen, gan leddfu'r pwysau ar adrannau achosion brys a rhyddhau criwiau ambiwlans i ymateb i alwadau mwy brys.
Mae mwy na phedair miliwn a hanner o alwadau 999 wedi’u gwneud i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ers sefydlu’r ddesg yn 2015.
O’r rheini, mae’r ddesg wedi bod yn ymwneud â bron i 13,000 (38%) o ddigwyddiadau’r mis ac wedi llwyddo i drefnu gofal mwy priodol ar gyfer tua 20% (ychydig llai na 4,000) o gleifion, yn hytrach nag anfon ambiwlans atynt i fynd â nhw i adran achosion brys.
Dywedodd Debbie Lewis, Nyrs a Rheolwr Gweithrediadau ar Ddyletswydd yn Abertawe: “Ar y Ddesg Gymorth Clinigol, rydym yn derbyn pob math o alwadau, ac er ein bod yn ystyried llwybrau amgen, ein prif ffocws bob amser fydd diogelwch cleifion.
“Mae gennym ni dîm gwych gyda phrofiad da iawn ac amrywiol sy'n bwysig iawn pan fyddwch chi'n ceisio sefydlu'r ffordd orau ymlaen i glaf.
“Mae’r cyfan lawr i waith tîm ac rydyn ni bob amser yn hapus i gynnig ein cyngor a rhannu ein barn yn dibynnu ar y math o alwad a’r symptomau y mae’r claf yn eu cyflwyno.
“Dw i wedi bod ar y Ddesg Gymorth Clinigol ers chwe blynedd a dw i’n gallu gweld y gwahaniaeth y mae’r tîm yn ei wneud gan nad yw pawb sy’n ffonio 999 angen ambiwlans neu angen mynd i’r ysbyty.
“Weithiau, y peth gorau i’r claf fyddai aros yn y gymuned a chael atgyfeiriad neu asesiad meddyg teulu gan dîm iechyd meddwl arbenigol.”
Dywedodd Matthew Phillips, Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl yn Llangynnwr: “Ar sifft arferol, bydda i’n brysbennu ystod o alwadau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lle bynnag y bo modd, yn cyfeirio’r cleifion hynny at yr asiantaethau mwyaf priodol.
“Mae mwyafrif ein galwadau gan bobl sy’n profi argyfwng iechyd meddwl a gall fod yn anodd canfod beth sy’n digwydd a beth sydd wedi dod â nhw at y pwynt lle maen nhw’n ffonio’r gwasanaeth ac yn gofyn am help.
“Mae’n ymwneud â cheisio rhoi’r holl ddarnau at ei gilydd a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen gyda’r claf i sicrhau eu bod yn cael y gofal neu’r cyngor cywir, gan y gwasanaeth cywir, ar yr amser iawn.”
Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: “Ar adeg o alw digynsail ar y system gofal brys a gofal mewn argyfwng, mae angen i ni feddwl yn wahanol am y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau ambiwlans.
“Dim ond un ffordd rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu’r gofal neu’r cyngor cywir, yn y lle iawn, bob tro, ac mor agos at adref â phosibl yw’r clinigwyr o bell, a hoffwn estyn diolch enfawr i’r holl gydweithwyr sydd wedi ein cefnogi ar y daith hon hyd yn hyn.”
Ychwanegodd Pete Brown, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gofal Integredig: “Mae’r Ddesg Gymorth Clinigol wedi datblygu’n helaeth dros y 10 mlynedd, a dim ond y dechrau yw hyn mewn gwirionedd.
“Mae fy nghydweithwyr clinigol ar y Ddesg Gymorth Clinigol yn gwneud gwaith anhygoel yn gofalu am gleifion ledled Cymru, yn aml dan amgylchiadau heriol.
“Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill wrth i ni fynd i mewn i’r ddegawd nesaf, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chomisiynwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ddatblygu’r syniadau hynny a’u rhoi ar waith.”