11.04.2025
MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cynnal ei Gynhadledd Partneriaeth Gymdeithasol gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Gan weithio mewn partneriaeth â phartneriaid undebau llafur, cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth gyfres o weithdai, gyda phrif siaradwyr yn cynnwys ffigurau blaenllaw ym maes partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys Jack Sargeant AS, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaethau Cymdeithasol, a roddodd anerchiad agoriadol.
Nod y gynhadledd oedd pwysleisio y byddai modd creu’r math o amgylcheddau gwaith lle roedd y sefydliad a’i bobl yn ffynnu, trwy barch y naill at y llall, deialog agored ac ymrwymiad ar y cyd i nodau cyffredin.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Roedd ein cynhadledd partneriaeth gymdeithasol gyntaf erioed yn llwyddiant mawr, gan baratoi’r ffordd ar gyfer gwell cydweithrediad rhwng uwch arweinwyr, rheolwyr, partneriaid undebau llafur, a’n pobl, ledled Cymru.
“Mae’r heriau a wynebwn yn gofyn nid yn unig am sgiliau ac arloesedd arweinyddiaeth, ond hefyd safbwyntiau a phrofiadau amhrisiadwy ein pobl, a thrwy ddigwyddiadau fel hyn y gallwn lunio’r dyfodol gyda phwrpas a gweledigaeth.
“Mae ein hymrwymiad i gydweithio yn rhywbeth y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn falch iawn ohono; mae’n hanfodol er mwyn creu sefydliad sydd nid yn unig yn gynhyrchiol ond hefyd yn deg, yn gynhwysol ac yn gefnogol.”
Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys y gwestai arbennig Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru, a oedd yn brif siaradwr.
Mynegodd yr Ymddiriedolaeth ei gwerthfawrogiad i bawb a fynychodd ac a chwaraeodd ran yn y trafodaethau cyfoethog, gan groesawu'r cyfleoedd dysgu.
Dywedodd Hugh Parry, Partner Undeb Llafur: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu’r gynhadledd hon, gan sicrhau bod gan ein staff lais amlwg yn yr ystafell.
“Cawsom y fraint o fod mewn ystafell yn llawn arweinwyr, meddylwyr ac arloeswyr, ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd y sgyrsiau yn y digwyddiad yn cael effaith barhaol ar ein pobl, ein cleifion, a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”