Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn aduno â chydweithiwr a helpodd achub ei fywyd

22.10.2025

MAE gwirfoddolwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyfarfod â chydweithiwr a achubodd ei fywyd pan gafodd ataliad y galon gartref.

Roedd David Martin, 48 oed, o Dredelerch, Caerdydd, wedi bod yn gwirfoddoli fel Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned (CFR) ers pum mlynedd cyn iddo ddioddef ataliad y galon ym mis Gorffennaf y llynedd.

Dechreuodd David, sy’n gweithio yn y diwydiant diogelwch ac yn byw gyda’i bartner, Lauren, 38 oed, deimlo’n sâl yn ei gartref.

Wrth i’w symptomau waethygu a dechreuodd ddirywio, roedd yn gwybod yn iawn beth oedd yn debygol o fod yn achosi ei salwch.


Dywedodd David: “Fel CFR, rydw i wedi bod yn mynychu digwyddiadau ers sawl mlynedd ac wrth gwrs, rydw i wedi cael hyfforddiant hynod drylwyr a rheolaidd sy’n helpu fi i adnabod a thrin cleifion yn y gymuned.

“Pan ddechreuais i deimlo’n sâl, fe wnes i adnabod y symptomau ar unwaith gan sylweddoli fy mod i siŵr o fod yn cael trawiad ar y galon.”

Yn ffodus, nid oedd David ar ei ben ei hun yn ei gartref, a thrwy hap a damwain, roedd glanhawr ei eiddo yno yn gweithio ei sifft gyntaf erioed yn y cyfeiriad.


Fodd bynnag, yn lle galw am ambiwlans, penderfynodd David ffonio ei gydweithiwr, a oedd yn byw’n agos, gan eu cyfarwyddo i nôl diffibriliwr a’i ddod i’w gartref.

Parhaodd David: “Rwy’n gwybod, gydag ataliad y galon, ei bod hi’n hanfodol dechrau’r gadwyn oroesi cyn gynted â phosibl.

“Mae hyn yn golygu cael diffibriliwr ar gael a dechrau CPR cyn gynted â phosibl.

“Doeddwn i ddim yn hollol siŵr fy mod i ar fin cael ataliad y galon, ond roedd fy holl reddfau’n dweud wrtha i am baratoi ac yn ffodus, roedd fy mos, Paul, wrth law i gipio’r diffibriliwr a rhuthro draw i’m cartref.”

Fodd bynnag, cyn i Paul allu mynd i nôl y diffibriliwr, roedd David wedi dirywio i’r pwynt lle ffoniodd ei lanhawr 999 am ambiwlans.

Cyrhaeddodd Nathan Moruzzi ac Emma Gibbison y lleoliad ychydig funudau’n ddiweddarach a dechrau trin David.


Cofiodd Emma: “Roedd David i fyny’r grisiau yn ei ystafell wely yn cwyno am boen eithafol yn y frest ac o fewn munud neu ddau o gyrraedd, cafodd ataliad y galon, ac fe wnaethon ni alw am gymorth.

“Cyrhaeddodd ail ambiwlans y lleoliad yn fuan wedyn ac yna ymunodd y tîm Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys â ni ar fwrdd hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru.”

I wneud pethau’n waeth byth, roedd David ar lawr uchaf ei gartref, lle daeth yn amlwg na fyddai’n bosibl ei gael allan o’r eiddo trwy’r grisiau serth a chul.

Mewn cyfres anghyffredin o ddigwyddiadau, fe wnaeth y criw, ynghyd â chydweithwyr o’r heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gau’r ffordd y tu allan i gartref David a dechrau’r dasg anodd o’i gael o lawr uchaf yr eiddo ac i mewn i’r ambiwlans oedd yn aros isod.

Dywedodd David: “Er nad ydw i’n cofio’r digwyddiad, rydw i wedi gweld llawer o bethau ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi siarad â phobl oedd yno.

“Dywedodd y meddygon wrtha i fy mod wedi derbyn 16 sioc o’r diffibriliwr a bod y CPR wedi parhau am awr gyfan tra roedden nhw’n ymladd i gadw fi’n fyw ac i gael fi i’r ysbyty,”


Er mwyn symud David o’i gartref yn ddiogel a chaniatáu i glinigwyr ei drin ar yr un pryd, tynnodd criwiau o’r gwasanaeth tân y ffenestr ar y llawr uchaf a defnyddio craen arbenigol i’w gludo allan lle'r oedd yn gallu cael ei gludo’n syth i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd David ail ataliad y galon tra oedd o dan ofal meddygon yn yr uned gofal cardiaidd a byddai’n treulio wyth wythnos yn yr ysbyty, dwy ohonynt mewn coma wedi’i ysgogi.

Er gwaethaf ei brofiad anodd, mae David bellach ar y ffordd i wella’n llwyr ac mae wedi dychwelyd i’r gwaith.


Mae hyd yn oed wedi llwyddo i gadw ei synnwyr digrifwch, gan jocio: “Druan ar fy nglanhawr, bydd hi byth yn anghofio ei sifft gyntaf yn fy nhŷ ac rwy’n deall yn llwyr pam na ddaeth hi’n ôl am unrhyw sifftiau pellach.”

Pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, maen nhw’n llewygu ac yn dod yn anymatebol.

Maen nhw naill ai’n stopio anadlu’n gyfan gwbl, neu efallai y byddan nhw’n profi diffyg anadl neu’n anadlu’n anaml am ychydig funudau, y gellir ei gamgymryd am chwyrnu.

Dywedodd Carl Powell, Arweinydd Clinigol Gofal Acíwt yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae stori David yn rhyfeddol ac yn dangos sut y gall pobl oroesi ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty.

Dylai’r alwad gyntaf am gymorth mewn amgylchiadau o’r fath fod i 999 bob amser, i roi ymateb ambiwlans amserol ar waith gan fod y siawns o oroesi ataliad y galon yn gwella pan fydd y gadwyn oroesi yn cael ei roi ar waith ar unwaith.

“Mae hyn wedi’i ddangos gan gamau prydlon y glanhawr, a ddylai cael ei chanmol am hyn.

“Rhoddodd ei galwad y gadwyn oroesi ar waith, ac mae canlyniad David yn enghraifft wych o hyn.”


I’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ataliad y galon, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Achub Bywyd Cymru a’r Cyngor Dadebru’r DU wedi partneru i ddarparu cymorth ac arweiniad wedi'i deilwra i oroeswyr, teuluoedd ac ymatebwyr, gan ganolbwyntio ar adferiad corfforol ac emosiynol.

Mae’r adnoddau hefyd yn cynnwys cefnogaeth benodol i bobl ifanc, goroeswyr eraill a gwylwyr.

Sut allwch chi helpu ymhellach:


Dysgwch sut i wneud CPR. Mae Cyngor Dadebru’r DU wedi creu’r canllaw cam-wrth-gam hwn: Sut i wneud CPR | Cyngor Dadebru’r DU

Gwirfoddolwch yn lleol: Dewch yn Ymatebwr Lles Cymunedol, ac yna yn Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned, gyda’r hyfforddiant i fynychu galwadau 999 a rhoi CPR a gweithio diffirbiliwr.

Cofrestrwch ddiffibrilwyr: Ychwanegwch ddyfeisiau newydd neu rhai sydd eisoes yn bodoli i The Circuit, y rhwydwaith diffibrilwyr genedlaethol, fel bod trinwyr galwadau 999 yn gallu dod o hyd iddynt yn gyflym.

Cofrestrwch ar yr ap GoodSAM os ydych yn swyddog cymorth cyntaf cymwysedig i gael hysbysiad os bydd ataliad y galon yn eich ardal leol a dechreuwch y ‘gadwyn oroesi’ cyn i ambiwlans gyrraedd.