Rydym wrth ein bodd yn eich gwahodd i ymuno â ni yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Ymunwch â ni drwy Microsoft Teams ddydd Iau 30 Gorffennaf i glywed y Bwrdd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad a chyllid, cymeradwyo'r adroddiad blynyddol a'r cyfrifon ar gyfer 2025/26 yn ffurfiol a chymryd cwestiynau gan randdeiliaid a'r cyhoedd.
Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle pwysig i fyfyrio ar gyflawniadau a chynnydd y flwyddyn ddiwethaf a'r effaith y mae'r rhain wedi'i chael ar ein gwasanaethau, gan gynnwys trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i roi'r cyngor a'r gofal iawn i gleifion, yn y lle iawn, bob tro.
Mae hefyd yn rhoi cyfle inni edrych ymlaen, gan rannu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd i'w chyflawni.
Cliciwch yma i ymuno â chyfarfod Microsoft Teams ddydd Iau 30 Gorffennaf rhwng 9.30am-10.45am.
Gall gwylwyr ofyn cwestiwn mewn amser real trwy'r opsiwn Holi ac Ateb ar Teams, neu gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw trwy anfon neges e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 29 Gorffennaf fan bellaf.
Byddwn hefyd yn cynnal ein cyfarfod Bwrdd deufisol yn syth ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, lle bydd gwylwyr yn clywed canlyniad adolygiad effeithiolrwydd allanol diweddar y sefydliad Good Governance Institute o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.
Bydd aelodau'r bwrdd hefyd yn clywed gan Lucy Burrows, mam bachgen ifanc sy'n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau corfforol a niwroamrywiol a'u profiad o ddull y criw Gwasanaeth Meddygol Brys sy’n mynychu o ganolbwyntio ar y claf.
Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod sy'n dechrau am 11.00am, a bydd agenda ar ei gyfer ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn fuan.
I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 29 Gorffennaf fan bellaf.
Noder mai dim ond 10 munud cyn i bob cyfarfod ddechrau y bydd y ddolen Teams hon yn gweithio.