Neidio i'r prif gynnwy

Gwahoddiad i bobl ledled Cymru i 'Llenwi Ein Cymunedau ag Achubwyr Bywyd' gyda Restart A Heart Live

Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn dychwelyd ar 1 Hydref 2026 i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR a defnyddio diffibriliwr.

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Restart A Heart Live 2026, digwyddiad rhyngweithiol am ddim a gaiff ei ffrydio’n fyw ledled y DU er mwyn dysgu sgiliau CPR a chodi ymwybyddiaeth o ddefnyddio diffibrilwyr, sgiliau a gwybodaeth a allai helpu i achub bywyd.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 1 Hydref ac mae’n agored i ysgolion, colegau, gweithleoedd, grwpiau cymunedol, teuluoedd ac unigolion. Mae sesiynau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gellir eu dilyn yn yr ystafell ddosbarth neu gartref heb unrhyw offer arbenigol. Gall cyfranogwyr ddefnyddio clustog, siaced wedi’i phlygu neu dedi bêr i ymarfer.

Mae mwy na 40,000 o bobl yn profi ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn y DU bob blwyddyn, ond mae llai nag un o bob deg yn goroesi. Gall CPR ar unwaith a defnydd cynnar o ddiffibriliwr fwy na dyblu siawns rhywun o oroesi.

Mae mwy na 400 o ysgolion ledled Cymru eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan, ac mae’r trefnwyr yn annog hyd yn oed mwy o ysgolion a chymunedau i ymuno â’r ymgyrch a helpu i greu cenedl sy’n hyderus i weithredu mewn argyfwng.

Mae pwysigrwydd dysgu CPR yn cael ei amlygu gan stori oroesi ddiweddar tad o Abertawe, Jay McCreary, a gafodd ataliad ar y galon yn ei gartref. Pan sylweddolodd ei wraig, Lauren McCreary, fod rhywbeth o’i le, ffoniodd 999 ar unwaith a dechreuodd roi CPR gyda chyfarwyddiadau gan Gemma Clarke, derbynnydd galwadau gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, nes i griwiau’r ambiwlans gyrraedd. Rhoddodd ei gweithredoedd y cyfle gorau posibl i Jay oroesi a gwella.

Mae Restart A Heart Live yn cael ei gyflwyno gan wasanaethau ambiwlans a sefydliadau adfywio blaenllaw ledled y DU, gan gefnogi’r uchelgais ar y cyd o sicrhau bod pawb yn cael mynediad at addysg achub bywyd.

Dywedodd Julie Starling, Rheolwr Clinigol y Rhaglen Ataliad ar y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yng Nghymru yn dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty, ond gall gwybod beth i’w wneud yn y munudau cyntaf hynny wneud yr holl wahaniaeth. Gyda mwy nag 80% o ataliadau y galon yn digwydd gartref, mae cael yr hyder a’r sgiliau i roi CPR yn bwysicach nag erioed.

“Mae stori oroesi Jay McCreary yn ein hatgoffa’n bwerus y gall pobl gyffredin wneud pethau rhyfeddol pan fydd ganddynt yr hyder i weithredu.

“Mae Restart A Heart Live yn rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru ddysgu sgiliau achub bywyd syml mewn dim ond 15 munud, sgiliau a allai un diwrnod helpu i achub bywyd anwylyn, ffrind neu gymydog.”

Bydd sesiynau ffrydio byw ar gael drwy gydol y dydd, gyda chynnwys wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Gall ysgolion nad ydynt yn gallu ymuno â’r sesiynau byw gofrestru i gael mynediad at sesiynau wedi’u recordio yn ddiweddarach.

Anogir ysgolion, athrawon, gweithleoedd a chymunedau lleol i gefnogi’r ymgyrch a helpu i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn elwa ar ddigwyddiad eleni.

Dewch i ni sicrhau bod pawb yn barod i roi CPR.

Cofrestrwch nawr
: www.restartaheart.live