Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal cyfarfod eithriadol y Bwrdd

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal cyfarfod eithriadol Bwrdd yr Ymddiriedolaeth.

Gall y cyhoedd ymuno drwy Microsoft Teams ar 25 Mehefin 2026 i wrando ar aelodau'r Bwrdd yn derbyn ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth ar gyfer 2025-2026.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae cyfarfodydd ein Bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau tryloywder a didwylledd ym mhopeth a wnawn, a byddem yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith yr Ymddiriedolaeth i ymuno â ni’n rhithwir i gael gwybod mwy.”


Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 25 Mehefin 2026 o 9.30am tan 10am.

Cynghorir gwylwyr y bydd y ddolen hon ond yn gweithio 10 munud cyn i'r cyfarfod ddechrau.

Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.