Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei Gyfarfod Bwrdd deufisol

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol.

Gwahoddir y cyhoedd i ymuno â’r cyfarfod ddydd Iau 28 Mai drwy Microsoft Teams i wrando ar uwch arweinwyr yn trafod agenda lawn, gan gynnwys adolygiad diwedd blwyddyn o gynnydd yn erbyn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig yn 2025/26, allweddol i'r cynllun yw esblygiad model clinigol yr Ymddiriedolaeth a'i nod o ddarparu'r gofal neu'r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro.

Bydd y Bwrdd yn clywed gan Nic Anderson, Rheolwr Dysgu a Datblygu ar gyfer Gwirfoddoli a Gwydnwch Cymunedol (a Pharafeddyg) a fydd yn rhannu ei thaith drwy ofal iechyd, gwirfoddoli ac arweinyddiaeth, gan ddangos sut mae angerdd dros achub bywydau wedi esblygu o ymarfer rheng flaen i alluogi eraill i wneud gwahaniaeth.

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiwn i'r Bwrdd.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae cyfarfodydd y bwrdd yn gyfle i glywed yn uniongyrchol am y gwaith sy'n digwydd ar draws y sefydliad a'r heriau sy'n ein hwynebu wrth i ni barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau ambiwlans i bobl Cymru.

“Maent hefyd yn cynnig llwyfan i'r cyhoedd ymgysylltu'n uniongyrchol drwy ofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.”

Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 28 Mai 2026 o 9.30am.

Byddwch yn gallu defnyddio’r ddolen 10 munud cyn i’r cyfarfod dechrau.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at  AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 27 Mai 2026 fan bellaf.

Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.