01.06.26
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dathlu gwaith ei wirfoddolwyr fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr genedlaethol.
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr (1-7 Mehefin) yn ddathliad blynyddol o'r cyfraniad y mae miliynau o bobl yn ei wneud ledled y DU trwy wirfoddoli.
Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth: “Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad o fudd i filoedd o gleifion ledled Cymru bob blwyddyn.
“Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn gyfle perffaith i amlygu’r gwaith maen nhw'n ei wneud a diolch iddyn nhw'n gyhoeddus am gefnogi eu cymunedau lleol.”
Ymhlith y cyfleoedd gwirfoddoli o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mae'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol.
Mae'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn cynnwys tîm o yrwyr gwirfoddol ymroddedig ledled Cymru, sy'n defnyddio eu cerbydau eu hunain i gludo cleifion yn ôl a blaen i apwyntiadau ysbyty, fel apwyntiadau dialysis arennol, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol.
Yn 2025/26, gwnaethon nhw gyflawni bron i 47,000 o deithiau - gan deithio mwy nag 1.3 miliwn o filltiroedd.
Daeth Brian Goodman, 61 oed, o Saundersfoot, yn yrrwr gwirfoddol ar ôl ymddeol o yrfa 36 mlynedd mewn dosbarthu.
I ddechrau, dywedodd Brian y byddai'n rhoi cynnig arni am fis ond mae bellach wedi bod yn rhoi o’i amser ers chwe blynedd.
Dywedodd: “Roedd angen rhywbeth arna i i’w wneud oherwydd fy mod i’n dal yn ddigon ifanc i weithio. A dweud y gwir, mae'n un o'r pethau gorau dw i wedi'i wneud. Doeddwn i ddim yn sylweddoli beth fyddwn i'n ei gael ohono, fel cwrdd â chymaint o bobl wahanol o gefndiroedd gwahanol.
“Mae'r cleifion yn ei werthfawrogi gymaint, mae'n afreal. Y cyfan rwy'n ei glywed yw ‘hebddot ti, fyddwn i ddim yn gallu mynd i'r apwyntiad hwn' neu 'does gen i ddim teulu, neu mae fy ngŵr neu fy ngwraig wedi marw, a does gen i ddim cludiant'.
“Maen nhw mor ddiolchgar. Dw i wedi chwarae rygbi drwy gydol fy mywyd, felly mae’n beth mawr dweud fy mod i’n cael lwmp yn fy ngwddf.”
Mae Brian yn mwynhau bod y rôl yn hyblyg a bod ganddo amser o hyd ar gyfer gwyliau a hobïau. Mae ganddo’r cyngor hwn i unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl: “Rhowch gynnig arni.” Mae'n rôl hyblyg ac rwy'n credu mai dyna beth nad yw rhai pobl yn ei sylweddoli. Gallwch chi ei wneud i'ch siwtio chi'ch hun."
Rôl wirfoddoli arall sydd ar gael yw Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned. Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn mynd i alwadau 999 yn eu cymuned ac weithiau’n rhoi cymorth cyntaf yn y munudau cyntaf gwerthfawr cyn i ambiwlans gyrraedd.
Maen nhw’n cael eu hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, gan gynnwys mewn therapi ocsigen ac adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), yn ogystal â sut i ddefnyddio diffibriliwr.
Yn 2025/26, mynychodd Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned ledled Cymru fwy na 10,000 o argyfyngau.
Mae Chloe Hobbs, 21 oed o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg, wedi bod yn Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned ers dwy flynedd.
Dywedodd: “Yn fy swydd ddyddiol, rwy'n gweithio ym maes hedfanaeth. Doeddwn i erioed wedi gwneud unrhyw beth ym maes gofal iechyd cyn gwirfoddoli i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, felly roeddwn i braidd yn nerfus i ddechrau.
“Roeddwn i’n arfer mynd yn eithaf nerfus gan feddwl mai fi oedd y person lleiaf profiadol yn yr ystafell ond mae fy meddylfryd wedi newid i ‘rydw i yn yr ystafell’ a beth dwi’n feddwl wrth hynny yw does dim ots o ble rydych chi’n dod, yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi yno ac yn barod ac yn gallu helpu.
“Rwy’n teimlo’n ddiolchgar bod rhywun wedi gadael i mi ddod i mewn i’w tŷ a fy mod i’n gallu gwneud i rywun deimlo’n ddiogel yn ystod cyfnod mor anodd iddyn nhw.
Mae hi'n dweud bod rôl Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned yn amrywiol ond wrth wraidd hynny mae awydd helpu a chefnogi'r rhai o'ch cwmpas.
Dywedodd: “Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Does dim ots os mai dim ond paratoi paned i’r claf, yn casglu gwybodaeth i’r clinigwyr neu’n rhoi CPR rydych chi’n ei wneud. Ni waeth y math o alwad, byddwch chi bob amser yn cerdded i ffwrdd gan wybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth i'r person hwnnw.
“Weithiau dim ond gwên a rhyw ychydig o eiriau o sicrwydd rwyt ti’n eu rhoi, ond rydyn ni i gyd yn gwneud hyn achos ein bod ni eisiau helpu, a dyw’r teimlad yna byth yn eich gadael.”
Dywed Chloe na ddylai pobl gael eu digalonni gan ddiffyg profiad gan fod hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Rôl wirfoddoli bwysig arall yw'r Ymatebwr Lles Cymunedol.
Mae Ymatebwr Lles Cymunedol yn wirfoddolwyr sy'n mynd i ddigwyddiadau lle nad yw bywyd yn y fantol, i ddarparu arsylwadau amser real i ystafelloedd rheoli'r Ymddiriedolaeth, gan gynnwys cymryd tymheredd, pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon fel y gall clinigwyr fonitro'r claf o bell.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mynychodd Ymatebwyr Lles Cymunedol fwy na 2,500 o alwadau am gymorth.
Ymhlith y gwirfoddolwyr hynny mae Amy Richardson, 49, o Neuadd Llaneurgain, Sir y Fflint. Cafodd ei hysbrydoli i ddod yn Ymatebwr Lles Cymunedol ar ôl gwylio rhaglen deledu.
Dywedodd: “Dwi’n dipyn o nerd meddygol a dwi'n caru rhaglen 'Ambulance' y BBC.
“Roedden ni’n gwylio pennod, ac roedd yn cynnwys gwirfoddolwr. Aeth fy ngŵr i ymchwilio i’r rôl a darganfod fy mod i’n gallu dod yn wirfoddolwr yng ngogledd Cymru.”
Dechreuodd ei rôl ym mis Tachwedd y llynedd ond mae'n dweud bod bod yn rhan o'r gwasanaeth iechyd wedi bod o ddiddordeb iddi erioed.
Dywedodd: “Mae mor wahanol i’r hyn rwy’n ei wneud o ddydd i ddydd yn fy swydd ddyddiol. Rydw i'n gyfarwyddwr cwmni technoleg ond mae gen i aelodau o'r teulu sydd wedi bod yn barafeddygon ac rwy'n dymuno'n fawr y gallwn ddilyn hynny fel gyrfa."
Mae hi’n dweud, er bod ei rôl fel Ymatebydd Lles Cymunedol yn wahanol iawn i’w swydd ddyddiol brysur a heriol, fod y sgiliau a ddysgodd hi ym myd busnes wedi’u trosglwyddo i’w rôl wirfoddol.
“I mi, mae cyfathrebu da ac effeithiol yn rhan enfawr o’r rôl, a hefyd bod yn gallu tawelu meddyliau pobl. Mae angen i chi feithrin perthynas yn gyflym iawn a theimlo'n gyfforddus mewn sefyllfaoedd lle gall fod ychydig yn anhrefnus ac yn llawn straen.
Dywed Amy ei bod hi'n cael llawer iawn allan o wirfoddoli a byddai'n annog unrhyw un i edrych i mewn iddo.
Dywedodd: “Rwy’n ei garu’n fawr ac rydw i wedi perswadio fy nghymydog i wirfoddoli hefyd! Rydych chi'n teimlo eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, hyd yn oed os mai dim ond i un person ar un diwrnod ydyw".
Dywedodd Jennifer Wilson, Rheolwr Gwirfoddolwyr Cenedlaethol: “Yr Wythnos Gwirfoddolwyr eleni rydym yn dathlu ac yn diolch i’r rhai ledled Cymru sy’n gwneud cyfraniadau amhrisiadwy i’w cymunedau.
“Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r Ymddiriedolaeth, yn cynnig eu hamser, eu sgiliau a’u tosturi i gryfhau gofal cleifion.
“Mae eu hymroddiad yn sicrhau bod ein gwasanaeth yn parhau i ddarparu’r lefel uchaf o gefnogaeth i gymunedau”.
I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ewch i: Gwirfoddolwch i ni - Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru