Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio gyda'r Fyddin ar gyfer hyfforddiant arbenigol

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cydweithio â Chatrawd Feddygol Aml-Rôl 203 (Cymreig) i hyfforddi recriwtiaid newydd Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru.

Mae staff CHARU yn barafeddygon â sgiliau uwch sy'n ymateb i'r galwadau 999 mwyaf brys, gan gynnwys ataliadau’r galon, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd a digwyddiadau trawma mawr.

Mae'r berthynas rhwng Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r fyddin yn cynnig cyfle i rannu arbenigedd ac offer wrth elwa o gyfleusterau a gedwir gan y fyddin a dysgu o'u profiad.

Cynhaliwyd cwrs hyfforddi CHARU cyntaf ar 20 Mai yng nghanolfan Wrth Gefn y Fyddin yn Abertawe.

Datblygwyd adnodd Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru yn 2022, gyda mwy na 150 o staff bellach wedi’u hyfforddi yn y rôl hon. Fodd bynnag, mae'r galw am safleoedd a natur arbenigol yr hyfforddiant yn golygu mai dim ond nifer fach o safleoedd sy'n addas.

Mae cydweithio bellach yn caniatáu i offer CHARU a ddefnyddir yn anaml gael ei ddefnyddio gan Gatrawd Feddygol Aml-Rôl 203 (Cymreig).

Mae'r berthynas hefyd yn caniatáu i staff CHARU ddysgu mewn amgylcheddau hyfforddi realistig yn ogystal â gweithio gyda staff milwrol sydd â phrofiad o drawma. Yn yr un modd, mae staff ambiwlans yn gallu rhannu eu profiad rheng flaen, er enghraifft, rheoli ataliadau’r galon.

Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth: “Dyma enghraifft ardderchog o gydweithio ar draws gwahanol sefydliadau i rannu adnoddau a'u defnyddio'n effeithiol.

“Rydym yn gyffrous i weld pa welliannau y gall hyn eu dwyn i'r ddau sefydliad i wella'r gofal a gynigiwn i'r cleifion mwyaf sâl”.

Dywedodd WO1 James ar gyfer Catrawd Feddygol Aml-Rôl 203 (Cymreig): “Mae ein Technegwyr Meddygol Ymladd, Parafeddygon ac Ymarferwyr Ambiwlans yn elwa'n fawr o hyfforddiant ochr yn ochr â chydweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, tra ein bod yr un mor falch o rannu'r gwersi y mae ein meddygon milwrol wedi'u dysgu o leoliadau gweithredol.

“Gyda’n gilydd, rydym yn datblygu clinigwyr medrus iawn sydd wedi’u paratoi’n well i ymateb i argyfyngau a darparu gofal eithriadol i gleifion pryd bynnag a lle bynnag y bo eu hangen.

“Mae’r cyfleuster newydd yn natodiad Morfa yn Abertawe (Canolfan Wrth Gefn y Fyddin) yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir i ragoriaeth, arloesedd a datblygiad proffesiynol parhaus, gan sicrhau bod clinigwyr milwrol a sifil yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gofal meddygol brys.”