Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw Cymru Gyfan yn Ceisio Dadebru Cardio-pwlmonaidd

Mae CPR yn driniaeth frys sy'n ceisio ailgychwyn eich calon a'ch anadlu pan fyddant wedi stopio.

Os yw ataliad y galon neu ataliad anadlol yn rhan ddisgwyliedig o'ch cyflwr presennol gallwch chi a'r tîm gofal iechyd sy'n gofalu amdanoch drafod a fyddech chi'n debygol o elwa o CPR.

Os yw eich tîm gofal iechyd yn sicr na fydd CPR yn gweithio, efallai y byddant yn penderfynu ymlaen llaw na ddylid rhoi cynnig arno. Byddant yn ysgrifennu'r penderfyniad hwn ar ffurflen o'r enw 'Peidiwch â Cheisio Dadebru Cardio-pwlmonaidd' (ffurflen DNACPR). Yn aml byddant yn dymuno trafod hyn gyda chi a bydd y ffurflen DNACPR yn cael ei chadw gyda'ch cofnodion iechyd.

Mae'r daflen ganlynol yn ymwneud â thriniaeth a elwir yn adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR). Gobeithiwn y gallai fod yn ddefnyddiol i gleifion ac i berthnasau, ffrindiau a gofalwyr. Efallai na fydd y daflen yn ateb eich holl gwestiynau felly siaradwch â'ch tîm gofal iechyd am unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.

Taflen Wybodaeth i Gleifion

Mae'r daflen hefyd ar gael mewn fformatau Sain, Braille ac Iaith Arwyddion Prydain, os hoffech gopi o'r CD sain cysylltwch â'r Tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned ar 01792 776252 neu e- bostiwch peci.team@wales.nhs.uk .