Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaethau a Datblygiadau

Mae'r Tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned (PECI) yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gymunedau a sefydliadau ledled Cymru. Gall y rhain gynnwys elusennau a grwpiau cenedlaethol neu leol. Mae gweithio gyda phartneriaid yn ffordd wych o ddysgu gwersi oddi wrth ein gilydd, a rhannu arfer da.

Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys grwpiau ffocws a digwyddiadau gyda Chymunedau Lleiafrifoedd Ethnig. Mae gweithio gyda’r gymuned hon wedi ein helpu i nodi rhai o’r heriau sydd gan bobl wrth geisio defnyddio ein gwasanaethau. O ganlyniad rydym wedi gweithio i wella'r wybodaeth sydd gennym mewn ieithoedd eraill, yn ogystal â hyrwyddo cyfleuster y Llinell Iaith.

Mae gweithio gyda’r gymuned fyddar a thrwm eu clyw, yn ogystal â Chymdeithas y Byddar Prydain a’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) wedi ein helpu i edrych ar ba fath o wasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i’r gymuned hon. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.

Mewn partneriaeth â grŵp Pobl yn Gyntaf lleol, sy’n sefydliad o ac ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, rydym wedi cynhyrchu taflen o’r enw ’ 999 – beth sy’n digwydd pan fyddwch yn ffonio 999?' sydd wedi'i ysgrifennu a'i gynllunio ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu. Nod y daflen yw rhoi gwybod i bobl am y gwasanaethau a gynigir wrth ffonio 999, ac mae mewn fformat darluniadol hawdd ei ddeall.

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o waith partneriaeth diweddar o fewn y gwasanaeth. Os hoffech gysylltu â ni i drafod y gwaith hwn ymhellach, neu os hoffech gymryd rhan a gweithio mewn partneriaeth â ni, yna cysylltwch â'r Arweinydd Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned ar 01792 311773 neu e-bostiwch: peci.team@wales.nhs.uk.