Neidio i'r prif gynnwy

Straeon

Rydyn ni eisiau clywed eich straeon i'n helpu ni i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.

Os ydych chi'n glaf, yn berthynas neu'n ofalwr, mae gwrando ar eich profiadau o ddefnyddio Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ein helpu ni i ddeall beth rydyn ni'n ei wneud yn dda a beth allwn ni fod yn ei wneud yn well. Rydym yn defnyddio'r straeon hyn i ddeall sut deimlad yw bod yn ddefnyddiwr ein gwasanaethau; mae clywed hanes yn cael ei adrodd yn llais rhywun ei hun yn cario llawer mwy o bŵer emosiynol na darllen adroddiad yn unig, ac mae'n ein hatgoffa o'r bod dynol sydd wrth galon ein prosesau a'n gweithdrefnau.

Rhith Videobooth.

Os oes gennych chi stori i ni, gallwch ei chyflwyno gan ddefnyddio ein gwasanaeth Virtual Videobooth* newydd isod. Mae'n hawdd ei ddefnyddio a dyma'r ffordd gyflymaf a mwyaf diogel i gofnodi'ch stori a'i hanfon atom. Mae'n gweithio ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron, tabledi a ffonau smart gyda chamerâu a meicroffonau wedi'u cynnwys ynddyn nhw.

Agor Videobooth

Fel arall, yn dibynnu ar gyfyngiadau covid, efallai y byddwn yn gallu ymweld â chi gartref i gofnodi eich stori wyneb yn wyneb.

Darganfod mwy.

I gael gwybod mwy am sut y gall eich straeon ein helpu i wneud gwelliannau, cysylltwch â'r Tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned ar 01792 311773 neu e-bostiwch peci.team@wales.nhs.uk .

 

*Pan fyddwch yn agor y Videobooth gofynnir i chi ateb y pedwar cwestiwn canlynol, o fewn y terfyn amser a roddwyd:

  1. Dywedwch wrthym eich enw ac ychydig amdanoch chi'ch hun. (30 eiliad)
  2. Dywedwch wrthym am eich profiad. (3 munud)
  3. Sut gwnaeth eich profiad wneud i chi deimlo? (3 munud)
  4. Beth allem ni fod wedi ei wneud yn wahanol? (2 funud)

Felly cyn defnyddio'r Videobooth, mae'n syniad da paratoi eich hun a meddwl am yr hyn yr ydych am ei ddweud, i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y defnydd gorau o'r amser a ganiateir ar gyfer pob cwestiwn.

Yn dibynnu ar gyflymder eich cysylltiad, gall gymryd sawl munud i'ch cyflwyniad fideo gael ei uwchlwytho'n ddiogel.