Neidio i'r prif gynnwy

Defibuary

Mae ymgyrch cyfryngau cymdeithasol blynyddol yr Ymddiriedolaeth am fis o hyd wedi'i chynllunio i addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibrilio.

Yng Nghymru, mae 80% o ataliadau ar y galon yn digwydd yn y cartref ac yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon , dim ond un o bob deg o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yn y DU.

Gall ddigwydd i unrhyw un, o unrhyw oedran, felly gall gwybod beth i'w wneud wella'r siawns o oroesi.

Offeryn hanfodol sydd ar gael i bron bob cymuned yng Nghymru yw diffibrilwyr mynediad cyhoeddus (PADS).

Efallai y byddwch yn adnabod y dyfeisiau cludadwy achub bywyd hyn sydd wedi'u lleoli mewn mannau cyhoeddus.

Mewn achosion o ataliad y galon pan fydd y galon wedi rhoi’r gorau i bwmpio gwaed o amgylch y corff, bydd diffibriliwr yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam i chi ar beth i’w wneud a bydd ond yn rhoi sioc os bydd ei angen ar y person.

Mae diffibrilwyr yn hawdd i'w defnyddio ac wedi'u cynllunio i gael eu defnyddio gan unrhyw un.

Ni allwch achosi unrhyw niwed i'r person.

 

  • Sicrhau bod y diffibriliwr mynediad cyhoeddus yn eich cymuned wedi'i gofrestru ar gronfa ddata rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol Sefydliad Prydeinig y Galon - The Circuit . Os nad yw dyfais wedi'i chofrestru, ni fydd ein derbynwyr galwadau brys 999 yn gwybod a yw diffibriliwr gerllaw ac ar gael ar gyfer argyfwng.
  • Gwylio animeiddiad ' Defib Dani ' Cyngor Dadebru'r DU, a fydd yn mynd â chi drwy'r camau o ddefnyddio diffibriliwr mynediad cyhoeddus.
  • Dysgu CPR gyda RevivR , cwrs hyfforddi rhyngweithiol ar-lein rhad ac am ddim Sefydliad Prydeinig y Galon. Dim ond 15 munud y mae'n ei gymryd.
  • Cofrestru i GoodSAM os ydych wedi'ch hyfforddi neu os oes gennych dystysgrif mewn cymorth cyntaf. Mae'r ap ffôn clyfar byd-eang rhad ac am ddim yn rhybuddio aelodau o'r cyhoedd, a all ddarparu cymorth bywyd sylfaenol i'r rhai gerllaw sy'n dioddef ataliad ar y galon tra bod ambiwlans ar y ffordd.

 

Trawiad ar y galon
Symptomau Beth i'w wneud
  • Claf fel arfer yn ymwybodol
  • Teimlad o bwysau
  • Poen
  • Poen yng nghanol y frest a all ymledu i'r cefn, yr ên a'r breichiau
  • Chwysu
  • Diffyg anadl
  • Ffoniwch 999 ar unwaith
  • Eisteddwch y claf i lawr
  • Cadwch nhw'n llonydd
  • Cadwch nhw'n dawel
Ataliad y galon
Symptomau Beth i'w wneud
  • Cwymp sydyn
  • Rhoi'r gorau i anadlu fel arfer
  • Ffoniwch 999 ar unwaith a gwrandewch yn astud ar y sawl sy'n delio â'r alwad
  • Dechreuwch CPR ar unwaith
  • Byddwch yn cael gwybod a oes diffibriliwr gerllaw a gofynnir i chi a all rhywun yno fynd i'w gasglu