Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dathlu Diwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol

Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn talu teyrnged i’w gwirfoddolwyr fel rhan o Ddiwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol.

Mae Diwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol (5 Rhagfyr) yn ddathliad blynyddol o'r cyfraniad y mae miliynau o bobl ledled y byd yn ei wneud drwy wirfoddoli.

Mae bron i 600 o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, gan gynnwys 460 o Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned a 110 o Yrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol.

Mae Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn defnyddio eu cerbydau eu hunain i gludo pobl i apwyntiadau ysbyty arferol, gan gynnwys dialysis, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol.

Yn 2022/23, gwnaethant 48,150 o siwrneiau ledled Cymru gan ymestyn dros filiwn a hanner o filltiroedd - sy’n cyfateb i yrru i’r lleuad ac yn ôl deirgwaith.

Yn eu plith mae Eirian Williams, cyn heddwas a dyfarnwr snwcer proffesiynol, a ddechreuodd wirfoddoli i’r gwasanaeth ambiwlans yn 2008.

Cafodd y dyn 68 oed, o Lanelli, ei ysbrydoli i ymuno â’r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn ystod ei ‘amser segur’ o snwcer, ac mae bellach yn gwirfoddoli tri diwrnod yr wythnos.

Dywedodd: “Ro’n i wrth fy modd gyda fy ngyrfa snwcer proffesiynol, ond roedd y calendr cystadlu yn golygu fy mod i hefyd wedi cael llawer o amser bant, yn enwedig dros fisoedd yr haf.

“Ro’n i’n sgwrsio â ffrind a wnaeth awgrymu i mi roi cynnig ar wirfoddoli, a dywedodd ffrind arall fod y gwasanaeth ambiwlans yn cymryd pobl ymlaen - mae'r gweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hanes.”

Ymunodd Eirian â Heddlu Dyfed Powys ym 1975 a gweithiodd yn bennaf yn y tîm traffig ffyrdd yn Llanelli.

Ymddeolodd o'r heddlu yn 1993 ar ôl cyfnodau yng ngorsafoedd Llandeilo a Rhydaman, gan gynnwys yn CID.

Enillodd Eirian achrediad Dyfarnwyr Snwcer Dosbarth C yn 1981 ac o fewn pum mlynedd, roedd yn Uwch Ddyfarnwr Cymreig yn y Gyfres Ryngwladol Gartref.

Dyfarnodd ei rownd derfynol Safle Byd cyntaf yn 1998 yn nhwrnamaint Regal Welsh yng Nghasnewydd, yn ogystal â phedair Rownd Derfynol Pencampwriaeth y Byd yn Theatr Crucible Sheffield yn 2001, 2005, 2007 a 2010.

Dywedodd: “Gan amlaf, mynd â chleifion i apwyntiadau yng Nghymru dw i’n ei wneud, ond dw i hefyd wedi bod mor bell i ffwrdd ag Ysbyty Lerpwl, Birmingham, Bryste ac Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain.

“Rydych chi'n cwrdd â phobl ddiddorol, ond fy athroniaeth yw aros tan bo nhw’n ddechrau'r sgwrs oherwydd dydych chi byth yn gwybod a yw rhywun eisiau peth amser i fyfyrio os ydyn nhw'n mynd i apwyntiad pwysig.

“Does dim rhaid i chi fod ar gael bob dydd o’r wythnos, ond os yw eich ffordd o fyw yn golygu bod gennych chi amser sbâr yn aml, yna dewch i ymuno â ni a rhoi yn ôl i’r gymuned.”

Gwirfoddolwyr yw Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned sy’n mynychu galwadau 999 yn eu cymuned ac yn rhoi cymorth cyntaf yn y munudau cyntaf gwerthfawr cyn i ambiwlans gyrraedd.

Maen nhw’n cael eu hyfforddi gan y gwasanaeth ambiwlans i roi cymorth cyntaf, gan gynnwys therapi ocsigen ac adfywio cardio-pwlmonaidd, yn ogystal â defnyddio diffibriliwr.

Y llynedd, aethant i fwy na 10,000 o argyfyngau yng Nghymru, gan gyrraedd lleoliad y galwadau ‘Coch’ mwyaf difrifol mewn naw munud ar gyfartaledd.

Yn eu plith mae Effie Cadwallader, 70, o St Martins, ger Croesoswallt, sydd wedi mynychu mwy na 1,000 o alwadau 999 ers iddi gychwyn ar ei thaith wirfoddoli.

Fel aelod o grŵp Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned (CFR) Gwledig Wrecsam, mae Effie yn gwasanaethu ardal eang o ogledd ddwyrain Cymru, o Lyn Ceiriog a Llangollen i’r gorllewin, Rhosllannerchrugog a Marchwiail i’r gogledd a Bettisfield a Hanmer i’r dwyrain, i gyd wedi’u canoli o amgylch y Waun.

Dywedodd Effie: “Ymunais â’r cynllun CFR pan ges i fy niswyddo’n sydyn - roedd angen rhywbeth gwerthfawr arnaf i lenwi fy nyddiau.

“Roedd yn nyddiau cynnar iawn CFRs, a’r unig gymorth cyntaf o’n i wedi ei wneud tan hynny oedd gyda’r Geidiaid 30 mlynedd ynghynt.

“Dw i’n gwirfoddoli bron bob dydd am nifer amrywiol o oriau, sef pum awr y dydd ar gyfartaledd, o’r wawr tan ein hamser cerdded dyddiol yn y prynhawn.

 

“Mae gen i ymrwymiad mawr arall yn fy mywyd, sy’n cymryd fy nosweithiau a phenwythnosau i fyny - canu gyda Chôr Ffilharmonig Brenhinol Lerpwl - ond dyna pryd mae CFRs eraill ar gael, felly mae’n gweithio’n dda.”

Ym mis Hydref, enillodd y nain i un Wobr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol y Flwyddyn o Wobrau WAST blynyddol yr Ymddiriedolaeth.

Meddai: “Yn aml, gofynnir i mi a ydw i’n mwynhau’r hyn rwy’n ei wneud.

“Dw i’n ateb na allaf byth ei fwynhau oherwydd fy mod yn ymweld â phobl mewn trallod, efallai hyd yn oed yn cael diwrnod gwaethaf eu bywydau.

“Y gorau y gallaf obeithio amdano yw’r boddhad y gwnes i helpu rhywun, bod y sgiliau sydd wedi’u drymio i mewn i mi yn ddefnyddiol a fy mod wedi lleddfu pryder a gofid rhywun.

“Mae hyfforddiant WAST o CFRs yn ardderchog, yn drylwyr, yn gynhwysfawr, yn gyfredol, yn barhaus, gyda mynediad cyflym iawn at gyngor, ac mae’r hyfforddwyr bob amser yn hapus i ateb cwestiynau.”

Yn 2021, lansiodd yr Ymddiriedolaeth ei Strategaeth Gwirfoddolwyr gyntaf, sy’n nodi sut y bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hintegreiddio’n well i’r gweithlu a’u cefnogi’n well i gyflawni’r rôl.

Dywedodd Jenny Wilson, Rheolwraig Gwirfoddoli Cenedlaethol: “Mae gwirfoddoli gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi dod yn bell iawn yn y ddau ddegawd diwethaf.

“Gall y rôl y mae ymatebwyr cyntaf yn ei chwarae wrth gychwyn y gadwyn goroesi olygu’n llythrennol y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, tra bod y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn gogan pwysig iawn yn olwyn y gwasanaeth difrys.

“Mae cynlluniau newydd a chyffrous ar y gweill wrth i ni groesawu ein gwirfoddolwyr ymhellach fel rhan o deulu #TîmWAST.”

Ychwanegodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Rydym yn rhoi gwerth uchel ar gyfraniad ein gwirfoddolwyr, ac yn hynod ddiolchgar i’r rhai sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi ein gwasanaeth ambiwlans.

“Mae Diwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol yn gyfle perffaith i dynnu sylw at y gwaith maen nhw’n ei wneud ac i ddiolch yn gyhoeddus iddyn nhw am eu hymrwymiad parhaus.”

Yn ogystal ag Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned a Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol, mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn ogystal â meddygon ‘BASICS’ o Gymdeithas Gofal Ar Unwaith Prydain, sy’n darparu gofal cyn mynd i’r ysbyty yn y fan a’r lle ar gyfer  argyfyngau mwy cymhleth.

Dilynwch y ddolen os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Yrrwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol: Dod yn Yrrwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol – Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn derbyn ceisiadau Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned o fis Chwefror 2024, ond yn y cyfamser, cliciwch ar y ddolen i ddysgu mwy am y rôl: Dod yn Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned – Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

A dilynwch y ddolen hon os oes gennych ddiddordeb yn rôl Ymatebwr Lles Cymunedol newydd yr Ymddiriedolaeth: Ymatebwyr Lles Cymunedol - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru