Neidio i'r prif gynnwy

Y dechnoleg sy'n galluogi'r gwasanaeth ambiwlans i ddarparu gofal yn nes at y cartref

18.10.24

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn defnyddio technoleg newydd i ddarparu gofal yn nes at gartref claf.

Mae’r ap ‘Luscii’ yn dal arwyddion hanfodol claf, gan gynnwys cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen gwaed, ac anfonir data mewn amser real i ystafell reoli’r ambiwlans lle mae clinigwyr gofal o bell yn pennu’r camau nesaf priodol wrth gynllunio gofal.

Gallai hyn fod yn atgyfeiriad at feddyg teulu’r claf, cyngor hunanofal neu anfon adnodd ambiwlans, os oes angen.

Y gobaith yw y bydd y dechnoleg yn helpu i gyflawni uchelgais yr Ymddiriedolaeth o ddarparu’r gofal neu’r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro.

Dywedodd Liam Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Ar adeg o alw digynsail ar y system gofal mewn argyfwng a gofal brys, mae angen i ni feddwl yn wahanol am y ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau ambiwlans.

“Mae cleifion yn aros yn llawer hirach nag y dylent am ambiwlans, ac unwaith y byddant yn yr ysbyty, gallant dreulio cryn dipyn o amser yn yr ambiwlans cyn cael eu trosglwyddo i’r adran achosion brys.

“Rydyn ni eisiau trawsnewid y ffordd mae gofal brys yn cael ei ddarparu trwy ofalu am fwy o gleifion yn eu cartrefi eu hunain lle mae’n bosibl gwneud hynny, gan leihau’n ddiogel nifer y cleifion rydyn ni’n mynd â nhw i’r adran achosion brys.

“Er mwyn galluogi ein pobl i ddarparu’r gofal neu’r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro, mae angen i ni roi’r offer cywir iddyn nhw. Mae’r dechnoleg hon yn ein rhoi ni’n gadarn ar y llwybr hwnnw.”

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda Chanolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dreialu technoleg Luscii mewn nifer fach o gartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ehangu'r peilot i rannau eraill o Gymru ac yn ceisio hyfforddi ei Hymatebwyr Lles Cymunedol gwirfoddol i gefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio'r ap wrth ymateb i alwadau yn eu cymuned.

Dywedodd Liam: “Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol yn allweddol i gefnogi eu cymunedau lleol, cynorthwyo cleifion ar adeg eu hangen a sicrhau cysylltiad â'n clinigwyr anghysbell.

“Mae defnyddio'r dechnoleg hon, ynghyd â chyfraniadau Ymatebwyr Lles Cymunedol, yn ein galluogi i ofalu am gleifion yn y gymuned dros gyfnodau hirach, a fydd yn caniatáu i'n clinigwyr drefnu'r gofal mwyaf priodol gan y gwasanaeth cywir."

Ychwanegodd Chris Lynes, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae Luscii yn cyd-fynd â dyfodol gofal iechyd ac rydym yn gyffrous i gymryd rhan.

“Rydym yn credu y bydd yr ap hwn a’r gefnogaeth gan Ymatebwyr Lles Cymunedol yn arwain at ganlyniadau gwell a gostyngiad yn y nifer o bobl sydd angen mynd i’r ysbyty.

“Mae'n ymwneud â ni’n gweithio gyda'n gilydd, yn gallach.

“Mae’r rhan fwyaf o ofal iechyd eisoes yn cael ei ddarparu mewn cymunedau, ac rydyn ni’n gwybod mai bod gartref, neu’n agos at eu cartrefi, yw lle mae pobl eisiau bod.”

Bu'r Ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ragoriaeth SBRI a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wahodd diwydiant a phartneriaid academaidd i ddatblygu datrysiad monitro cleifion o bell.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy AS, sy’n gyfrifol am arloesi, technoleg a thrawsnewid digidol: “Rwy’n falch o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud gan y prosiect arloesol hwn sy’n defnyddio technoleg flaengar i helpu i ddarparu gofal i gleifion yn nes adref.

“Trwy leihau’r angen am ymweliadau ysbyty, rydym yn lleddfu’r straen ar ein gwasanaethau gofal iechyd a staff ac yn lleihau’r straen a’r anghyfleustra i gleifion a’u teuluoedd, gan arwain yn y pen draw at ganlyniadau iechyd gwell a system gofal iechyd fwy cynaliadwy i bawb.”

Ychwanegodd Jonny Sammut, Cyfarwyddwr Digidol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Systemau digidol yw asgwrn cefn darparu gofal iechyd, ac wrth i dechnoleg ddatblygu’n gyflym, dyma gyfle cyffrous i harneisio pŵer data i wella’r gwasanaeth a ddarparwn i bobl Cymru.

“Mae ein gallu digidol fel gwasanaeth ambiwlans yn hollbwysig os ydym am wireddu ein huchelgais o ddarparu’r gofal neu’r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro.

“Trwy ddata, gallwn nodi tueddiadau, rhagweld anghenion a dyrannu adnoddau yn fwy effeithlon.

“Trwy wneud hynny, rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau nid yn unig yn fwy effeithlon ond hefyd yn cyd-fynd yn agosach ag anghenion penodol y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

“Mae’r dull hwn sy’n cael ei yrru gan ddata, fel y nodir yn ein Cynllun Digidol newydd, yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau’n barhaus a darparu gofal o ansawdd uwch i bob claf.”

Ym mis Ebrill, dyfarnwyd statws Ymddiriedolaeth Brifysgol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru gan Lywodraeth Cymru i gydnabod ei hymrwymiad i ysgogi arloesedd ac ymchwil.