Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Profiad y Claf

O dan gyfraith diogelu data’r DU, diffinnir Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fel y Rheolydd Data ac mae’n gyfrifol am y data personol a brosesir pan fyddwch yn cyflwyno ymatebion i’r cwestiynau adborth.

Ein manylion cyswllt:

Enw: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfeiriad: Ty Elwy, Uned 7 Ffordd Richard Davies, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0LJ

Y math o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a'i phrosesu

Nid oes angen i ni wybod eich gwybodaeth bersonol fel rhan o’r arolwg, ac rydym yn eich cynghori i beidio â darparu manylion personol a allai ddatgelu pwy ydych. Os byddwch yn darparu manylion penodol amdanoch fel eich enw a’ch manylion cyswllt, gallai hyn olygu y byddwn yn prosesu eich data personol. Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybod i chi sut y byddwn yn prosesu'r wybodaeth hon.

Mae’r data y byddwn yn gofyn amdano ac yn ei brosesu yn cynnwys: -

  • Yr ardal yr ydych wedi'ch lleoli;
  • Eich barn a'ch profiad o'r gwasanaeth a gawsoch;
  • Rhyw, Oedran, Anabledd a gwybodaeth monitro cydraddoldeb arall.

Mae'r arolwg yn wirfoddol, ac mae gan rai o'r cwestiynau 'ddim yn berthnasol' y gallwch eu dewis os nad ydynt yn berthnasol i'ch profiad. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol ar y diwedd ynghylch pwy ydych chi, gellir hepgor y rhain neu eu gadael yn wag os nad ydych am eu hateb.

Sut rydym yn cael y wybodaeth bersonol a pham mae gennym ni

Rydym yn prosesu data'r arolwg i'n galluogi i fonitro a gwella ein gwasanaeth.

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Cyflawni tasg gyhoeddus neu er budd y cyhoedd;
(h) Ar gyfer rheoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Bydd canlyniadau arolygon dienw yn cael eu rhannu neu eu datgelu i drydydd parti fel Comisiynwyr a Byrddau Iechyd.

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol

Cedwir ymatebion arolwg yn ddiogel ac yn gyfrinachol gan y tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned. Rydym yn defnyddio Microsoft fel Prosesydd Data i hwyluso'r ffurflen arolwg. Ni fydd eich data yn cael ei anfon y tu allan i'r DU.

Nid ydym yn anelu at gadw data personol, megis enw a manylion cyswllt, fel rhan o’r ymatebion i’r arolwg. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol o'r fath yn cael ei dileu ar ôl 3 mis. Bydd ymatebion unigol dienw i'r arolwg yn cael eu cadw am gyfnod o 2 flynedd. Mae’n bosibl y bydd angen i ni gadw hwn am gyfnod hwy pan fyddwn dan rwymedigaeth gyfreithiol neu ofyniad i wneud hynny.

Eich hawliau diogelu data

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i gywiro - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch ei bod yn anghyflawn.

Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i hygludedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, o dan rai amgylchiadau.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni yn Amb.records@wales.nhs.uk, neu 0300 123 2310 os dymunwch wneud cais.

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Tŷ Elwy, Ffordd Richard Davies, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0LJ, neu e-bostiwch: amb.infogov@wales .nhs.uk

Gallwch hefyd gwyno i'r ICO os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio'ch data.

Cyfeiriad yr ICO: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Wycliffe House Water Lane Wilmslow Cheshire SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan yr ICO: https://www.ico.org.uk

Gweler hefyd ein Hysbysiad Preifatrwydd Claf, a Eich Gwybodaeth Eich Hawliau am ragor o wybodaeth.