Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Gyda Ni Nid Yn Ein Herbyn

O dan gyfraith diogelu data’r DU, diffinnir Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fel y Rheolydd Data ac mae’n gyfrifol am y data personol a brosesir pan fyddwch yn cyflwyno ymatebion i gwestiynau’r arolwg.

Ein manylion cyswllt

Enw: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfeiriad: Tŷ Elwy, Uned 7
Heol Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych 
LL17 0LJ

Y math o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a'i phrosesu

Cynlluniwyd yr arolwg i fod yn ddienw ac nid oes angen i ni wybod eich gwybodaeth bersonol fel rhan o'r arolwg, ond byddwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am eich maes gwaith i'n helpu i nodi themâu. Os byddwch yn dewis rhoi manylion personol yn wirfoddol wrth ddweud wrthym am brofiad a ddigwyddodd i chi, gallai hyn arwain at brosesu eich data personol. Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybod i chi sut y byddwn yn prosesu'r wybodaeth hon. 

Mae’r data y byddwn yn gofyn amdano ac yn ei brosesu yn cynnwys: -

  • Eich maes gwaith;
  • Eich barn a'ch profiadau.

Mae'r arolwg yn wirfoddol ac mae pob cwestiwn yn ddewisol.

Sut rydym yn cael gafael ar yr wybodaeth a pham mae hi gennym ni?

Rydym yn prosesu data’r arolwg i’n helpu i ddeall yn well effaith yr ymgyrch Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn.

Ni fwriedir i unrhyw ddata personol adnabyddadwy gael ei gasglu at ddibenion yr arolwg hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis rhannu eich data personol adnabyddadwy yn wirfoddol wrth ddweud wrthym am brofiad, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Cyflawni tasg gyhoeddus neu er budd y cyhoedd;

Gall canlyniadau arolygon dienw gael eu rhannu neu eu datgelu i sefydliadau gwasanaethau brys eraill a'r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys.

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol

Mae ymatebion i'r arolwg yn cael eu storio'n ddiogel ac yn gyfrinachol gan y Tîm Cyfathrebu. Rydym yn defnyddio Microsoft fel Prosesydd Data i hwyluso'r ffurflen arolwg. Ni fydd eich data yn cael ei anfon y tu allan i'r DU.

Nid ydym yn anelu at gadw data personol fel rhan o’r ymatebion i’r arolwg. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol o'r fath yn cael ei dileu ar ôl tri mis. Bydd ymatebion unigol dienw i'r arolwg yn cael eu cadw am gyfnod o ddwy flynedd.  Mae’n bosibl y bydd angen i ni gadw hwn am gyfnod hwy pan fyddwn dan rwymedigaeth gyfreithiol neu ofyniad i wneud hynny.

Eich hawliau diogelu data

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau yn cynnwys:

Eich hawl i gael mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni yn Amb.records@wales.nhs.uk, neu 0300 123 2310 os dymunwch wneud cais.

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Tŷ Elwy, Ffordd Richard Davies, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0LJ, neu anfonwch e-bost at: amb.infogov@wales.nhs.uk

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio'ch data.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:           

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk