Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Preifatrwydd Recordiadau Ymgynghoriad Fideo 999RESPOND2

Astudiaeth a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal yw 999RESPOND2. Mae'n adeiladu ar waith 999RESPOND cynharach ac yn archwilio penderfyniadau anfon brys gan ddefnyddio ymgynghoriadau fideo. Nod yr astudiaeth yw gwella sut mae gofal critigol yn cael ei gyfeirio at y bobl sydd ei angen fwyaf. Gall y canfyddiadau gefnogi hyfforddiant staff a llywio polisi cenedlaethol, hefyd. 

Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yw'r noddwr a'r rheolydd data ar gyfer defnyddio recordiadau o ymgynghoriadau fideo sy’n cael eu cipio fel rhan o astudiaeth 999RESPOND2 at ddibenion ymchwil.

Mae modd recordio fideo wedi'i alluogi dros dro ar system ffrydio fideo yn y fan a’r lle GoodSam sy’n cael ei defnyddio gan Hwb Gofal Critigol Brys y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS). Bydd ymchwilwyr yn dadansoddi rhyngweithiadau yn lleoliad galwadau 999 dethol, gan gynnwys cyfathrebu a mynegiadau a gweithredoedd gweladwy, lle bo hynny'n berthnasol i'r dadansoddiad. 

Mae'r astudiaeth yn cael ei chyflawni gyda'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), a letyir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a chydweithwyr ymchwil academaidd ym Mhrifysgol Warwick. 

Ein manylion cyswllt

Enw: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cyfeiriad: Tŷ Elwy, Uned 7
Heol Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych 
LL17 0LJ

Arweinydd yr astudiaeth: Dr Nigel Rees, Pennaeth Ymchwil ac Arloesi

E-bost: Nigel.Rees5@wales.nhs.uk

Y math o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a'i phrosesu

Fel rhan o Brosiect Ymchwil 999RESPOND2, yn ystod galwad frys, gellir defnyddio cyswllt fideo byw i alluogi clinigydd yr ystafell reoli i gael gwell dealltwriaeth o symptomau claf, a hynny er mwyn helpu i benderfynu ar lefel y gofal – a’r ymateb – fydd ei hangen arno. Ar gyfer digwyddiadau dethol o fewn yr astudiaeth, bydd y darllediad byw hwnnw'n cael ei recordio. Gall y recordiad ddangos a chlywed:

  • Y claf a'r gofal neu'r brysbennu sy'n digwydd;
  • lleoliad y digwyddiad a lleoliadau adnabyddadwy;
  • aelodau staff, perthnasau, pobl sy'n sefyll gerllaw neu bobl eraill sy'n bresennol;
  • gwybodaeth am iechyd, diogelu neu wybodaeth sensitif arall sy'n weladwy neu'n cael ei thrafod.

Bydd yr astudiaeth hon yn recordio'r ffrwd fideo o rai lleoliadau digwyddiadau 999. Gofynnir i glaf, neu ymgynghorai priodol lle bo angen, am gydsyniad i ddefnyddio'r recordiad ar ôl y digwyddiad, a hynny cyn i'r recordiad gael ei ryddhau i'r tîm ymchwil academaidd. Os na cheir cydsyniad, ni fydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ymchwil, a bydd yn cael ei ddileu yn unol â threfniadau'r astudiaeth. Yn ogystal â'r recordiadau fideo, bydd yr astudiaeth yn casglu’r canlynol:

Manylion hunaniaeth a chyswllt 

Er enghraifft, eich enw, cyfeiriad, cod post, rhif GIG, dyddiad geni a gwybodaeth gyswllt, lle bo angen, i'ch adnabod chi, cysylltu â chi ynglŷn â'r astudiaeth a rheoli tynnu'n ôl. 

Gwybodaeth am eich iechyd a’r digwyddiad 

Gwybodaeth am eich iechyd corfforol neu eich iechyd meddwl, amgylchiadau'r digwyddiad, y gofal neu’r brysbennu, ac unrhyw wybodaeth ddiogelu sy'n berthnasol. 

Gweinyddu’r astudiaeth 

Eich rhif adnabod cyfranogwr ar gyfer yr astudiaeth, y ddogfennaeth gydsynio neu ddogfennaeth ymgynghorai, yr hanes cyswllt a’r cofnod astudiaeth a ddefnyddir i olrhain a ellid cynnwys eich data. 


Sut rydym yn cael gafael ar yr wybodaeth a pham mae hi gennym ni?

Oherwydd bod yr ymchwil hon yn cael ei chynnal mewn lleoliad brys, efallai na fydd rhywun yn gofyn i chi am gydsyniad cyn i'r recordiad fideo a'r ymgynghoriad ddigwydd. Bydd nyrs cyswllt â chleifion EMRTS yn ceisio cydsyniad ar ôl y digwyddiad, a hynny cyn gynted â phosibl. Os nad oes gennych y galluedd ar yr adeg honno, gellir cysylltu ag ymgynghorai priodol. Os byddwch chi'n adennill eich galluedd yn ddiweddarach, bydd y tîm ymchwil yn dilyn y broses astudio gymeradwy ar gyfer ceisio eich cytundeb chi.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Gallwch wrthod neu dynnu'n ôl heb roi rheswm, ac ni fydd hyn yn effeithio ar eich gofal meddygol. Os gwrthodir cydsyniad, bydd y recordiad yn cael ei ddileu. Os na ellir cael cydsyniad, ni fydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ymchwil a bydd yn cael ei ddileu ar ddiwedd yr astudiaeth.

Mae cydsynio i’r recordiad fideo gael ei ddefnyddio ac i gymryd rhan yn yr astudiaeth yn ofyniad moesegol a llywodraethol, ac mae’n rhoi dewis i chi ynghylch cymryd rhan.

O dan gyfraith diogelu data, mae WAST yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol ar gyfer prosesu'r ymchwil: 

  • Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU: mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol. 
  • Erthygl 9(2)(j) GDPR y DU: mae prosesu data categori arbennig yn angenrheidiol at ddibenion ymchwil wyddonol, gyda mesurau diogelwch priodol. 
  • Deddf Diogelu Data 2018, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 4: yr amod ymchwil, lle mae prosesu yn angenrheidiol, a gyflawnir yn unol â'r mesurau diogelwch ymchwil statudol ac er budd y cyhoedd. 

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Mae mynediad wedi'i gyfyngu i bobl awdurdodedig sydd angen yr wybodaeth ar gyfer yr astudiaeth. Gall hyn gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau tîm ymchwil o: 

  • WAST; 
  • EMRTS a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; 
  • Prifysgol Warwick, sef prif dderbynnydd academaidd y recordiadau fideo cymeradwy i'w dadansoddi. 

Dim ond ar ôl cael y cydsyniad gofynnol y caiff recordiadau cymeradwy eu rhyddhau i Brifysgol Warwick. Ni fydd Prifysgol Bryste yn cael mynediad at y recordiadau fideo, er y gall gael recordiadau galwadau wedi'u golygu a gwybodaeth arall o’r astudiaeth wedi'i golygu ar gyfer y prosiect ymchwil ehangach. Mae cytundebau prosesu data a gofynion cyfrinachedd perthnasol ar waith. 

Bydd yr hyn a ddywedwch yn cael ei drin yn gyfrinachol. Fodd bynnag, os bydd gwybodaeth yn awgrymu niwed tebygol i rywun arall neu droseddoldeb, efallai y bydd gan yr ymchwilydd ddyletswydd i roi gwybod am hyn i'r awdurdod priodol.

Sut mae'r wybodaeth yn cael ei storio a'i rhannu 

  • Mae'r fideo yn cael ei gadw'n ddiogel i ddechrau yng ngwasanaeth cwmwl GoodSam mewn canolfannau data yn y DU. 
  • Ar ôl cael cydsyniad, bydd staff ymchwil awdurdodedig y GIG yn ei lawrlwytho i leoliad storio cyfyngedig ar rwydwaith GIG Cymru. 
  • Rheolir mynediad trwy gyfrifon GIG Cymru, Microsoft Entra ID a dilysu aml-ffactor, ac mae wedi'i gyfyngu i aelodau awdurdodedig o’r tîm ymchwil.
  • Mae systemau GoodSam a GIG Cymru yn cynnal rheolaethau mynediad a logiau archwilio. Bydd tîm ymchwil EMRTS yn cynnal archwiliadau ychwanegol yn ystod yr astudiaeth. 
  • Ar ôl cael cydsyniad, gellir trosglwyddo ffeiliau cymeradwy i ymchwilwyr awdurdodedig o Brifysgol Warwick gan ddefnyddio Porth Rhannu Ffeiliau Diogel GIG Cymru. 

Am ba hyd y byddwn yn cadw'r wybodaeth?

Ar ôl i’r recordiad fideo gael ei ddadansoddi, bydd y fideo adnabyddadwy yn cael ei ddileu. Yna bydd trawsgrifiadau dienw yn cael eu defnyddio i'w dadansoddi. 

  • Os byddwch yn gwrthod cydsyniad, bydd y recordiad yn cael ei ddileu. 
  • Os na cheir cydsyniad, ni fydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil a bydd yn cael ei ddileu ar ddiwedd 31 Mawrth 2028. 

Eich hawliau diogelu data

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, sy’n cynnwys:

Eich hawl mynediad - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i gywiro - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Eich hawl i ddileu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, bydd gennym fis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni yn Amb.records@wales.nhs.uk, neu 0300 123 2310 os dymunwch wneud cais.

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Tŷ Elwy, Ffordd Richard Davies, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0LJ, neu anfon e-bost at: amb_infogovernance@wales.nhs.uk

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio'ch data.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:           

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):https://www.ico.org.uk

Gweler hefyd ein Hysbysiad Preifatrwydd i Gleifion, a’r daflen Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau i gael rhagor o wybodaeth.