Mewn rhai amgylchiadau gall fod yn anodd pennu pa ofal sydd ei angen ar glaf o ddisgrifiad llafar yn unig. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) bellach yn defnyddio meddalwedd ymgynghori fideo i alluogi clinigwyr sy'n gweithio yn y Ganolfan Gweithrediadau Brys i gynnal ymgynghoriadau rhithwir wyneb yn wyneb â rhai cleifion.
Os byddwch yn ffonio 999 gydag argyfwng nad yw’n peryglu bywyd, efallai y cewch eich ffonio’n ôl gan un o’n Clinigwyr a fydd yn cynnal brysbennu i gael rhagor o wybodaeth a nodi’r ymateb clinigol mwyaf priodol i chi. Yn ystod y broses brysbennu hon efallai y gofynnir i chi a ydych yn fodlon cymryd rhan mewn ymgynghoriad fideo.
Mae hyn er mwyn galluogi’r clinigwr i gael gwell dealltwriaeth o’ch symptomau er mwyn helpu i bennu lefel y gofal – a’r ymateb – sydd ei angen arnoch.
Os yw'r clinigwr yn teimlo y byddai'n elwa o ddelwedd weledol, bydd yn gofyn a fyddech chi'n hapus i gymryd rhan mewn ymgynghoriad fideo. Os byddwch yn cytuno, anfonir neges destun atoch yn eich galluogi i gyrchu'r alwad fideo ar ddyfais glyfar. Trwy glicio ar y ddolen, byddwch yn cydsynio'n weithredol i'r ymgynghoriad fideo. Gallwch hefyd ddewis peidio â chael ymgynghoriad fideo, ac ni fydd hyn yn effeithio ar y gofal clinigol y bydd WAST yn ei ddarparu i chi.
Mae Ymgynghoriadau Fideo yn cael eu ffrydio ac nid ydynt yn cael eu recordio. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw fideo, sain na delweddau yn cael eu storio na'u cadw o fewn systemau WAST.
Ni fydd WAST yn defnyddio'ch delweddau fideo at unrhyw ddiben heblaw darparu'r ymgynghoriad clinigol i chi.
Mae WAST yn rheolydd data cyfrifol, wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac rydym yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth Diogelu Data. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu data cleifion, gweler ein Polisi Preifatrwydd Cleifion: https://ambulance.nhs.wales/use-of-site/patient-privacy-policy/
Gallwch hefyd anfon e-bost at Swyddog Diogelu Data WAST yn AMB_infoGovernance@wales.nhs.uk gydag unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch sut rydym yn diogelu eich data.