Os ydych chi'n glaf, yn berthynas neu'n ofalwr, mae gwrando ar eich profiadau o ddefnyddio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ein helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda a beth y gallem fod yn ei wneud yn well. Rydym yn defnyddio'r straeon hyn i ddeall sut beth yw bod yn ddefnyddiwr o'n gwasanaethau; mae clywed stori yn cael ei hadrodd yn llais rhywun ei hun yn cario llawer mwy o rym emosiynol na dim ond darllen adroddiad, ac yn ein hatgoffa o'r bod dynol wrth wraidd ein prosesau a'n gweithdrefnau.
Os oes gennych chi stori i ni, gallwch chi ei chyflwyno gan ddefnyddio ein gwasanaeth Rhithwir Fideoboth* newydd isod. Mae'n hawdd ei ddefnyddio a dyma'r ffordd gyflymaf a mwyaf diogel o recordio'ch stori a'i hanfon atom ni. Mae'n gweithio ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar gyda chamerâu a meicroffonau adeiledig.
I gael gwybod mwy am sut y gall eich straeon ein helpu i wneud gwelliannau, cysylltwch â'r Tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned ar 01792 311773 neu e-bostiwch peci.team@wales.nhs.uk .
*Pan fyddwch chi'n agor y Fideobwth gofynnir i chi ateb y pedwar cwestiwn canlynol, o fewn y terfyn amser penodol:
Felly cyn defnyddio'r Videobooth, mae'n syniad da paratoi eich hun a meddwl am yr hyn rydych chi am ei ddweud, er mwyn sicrhau eich bod chi'n gwneud y defnydd gorau o'r amser a ganiateir ar gyfer pob cwestiwn.
Yn dibynnu ar gyflymder eich cysylltiad, gall gymryd sawl munud i'ch cyflwyniad fideo gael ei uwchlwytho'n ddiogel.