Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwpl o Gasnewydd yn diolch i'r triniwr galwadau 999 a'u cefnogodd drwy eni eu babi dros y ffôn

MAE CWPL o Gasnewydd wedi diolch i'r triniwr galwadau ambiwlans a'u cefnogodd trwy eni eu merch fach gartref.

Pan ddeffrodd Charlotte Wright, 25, gartref yn yr oriau mân, ni sylweddolodd pa mor agos oedd hi at roi genedigaeth i'w hail blentyn.

Deffrodd Charlotte, sydd bellach yn fam i ddau o blant balch, tua 3:20am yn teimlo braidd yn anghyfforddus, ond sylweddolodd yn gyflym ei bod ar esgor mewn gwirionedd, gyda chyfangiadau ychydig funudau oddi wrth ei gilydd.


Dywedodd Charlotte: “Pan sylweddolais beth oedd yn digwydd, fe ddeffrais fy mhartner Adam i roi gwybod iddo ei bod yn bryd mynd i’r ysbyty.

“Fe wnaethon ni ffonio’r uned famolaeth yn Ysbyty Athrofaol y Faenor a dywedon nhw wrthym i ddod  yn syth i mewn, ond fe ddaeth yn amlwg yn gyflym na fyddwn i’n gallu gwneud y daith 25 munud i’r ysbyty a phryd hynny, galwodd Adam am ambiwlans.”

Ar y pwynt hwnnw, ffoniodd Adam chwaer Charlotte hefyd, Chloe, i roi gwybod iddi ei bod wedi dechrau esgor ac i ofyn iddi ddod draw.

Yn ystod yr esgor, bu i blentyn cyntaf Adam a Charlotte, Alice, dwyflwydd oed, cysgu’n sownd, heb wybod bod ei chwaer fach ar fin cyrraedd yn sydyn ac yn annisgwyl iawn.

Lai na hanner awr ar ôl i Charlotte ddeffro am y tro cyntaf, fe wnaeth Adam ffonio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chafodd ei gysylltu â thriniwr galwadau 999, Tommy Saracco-Jones, sydd wedi'i leoli yn Llanfairfechan yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Charlotte: “Ro’n i mewn poen, yn dal fy anadl ac yn teimlo ychydig yn ofnus oherwydd roeddwn i'n gwybod nad oedd Nancy yn aros i unrhyw un gyrraedd, roedd hi'n dod allan yn y fan a'r lle.

“Roedd yn rhyddhad mawr cael rhywun fel Tommy ar y ffôn, yn trosglwyddo cyfarwyddiadau i mi ac Adam trwy fy chwaer, Chloe, a oedd yn dal y ffôn ac yn trosglwyddo popeth yr oedd Tommy yn ei ddweud.”

Dywedodd Tommy: “Daeth yn amlwg yn weddol gyflym fod y babi Nancy yn mynd i gael ei eni gartref ac roedd hyn yn debygol o ddigwydd cyn i griw allu mynd i’r eiddo.

“Ro’n i’n gwybod pa mor bwysig oedd hi i aros yn ddigynnwrf ac yn ei dro, cadw Adam a Charlotte yn ddigynnwrf wrth i mi siarad â nhw am bopeth y byddai angen iddyn nhw ei wneud.”

Yn ddiarwybod i Charlotte, roedd ei chwaer Chloe yn ymwybodol bod ambiwlans yn annhebygol o gyrraedd cyn i’r babi Nancy gael ei eni ond penderfynodd beidio â throsglwyddo’r wybodaeth honno, gan ddweud yn lle hynny wrth Charlotte fod cymorth bron ar gael gan ei bod yn gwybod y byddai hyn yn ei helpu i ymlacio a chanolbwyntio ar eni Nancy.

Dywedodd Charlotte: “Wrth edrych yn ôl, dw i’n falch bod fy chwaer wedi penderfynu peidio â dweud wrthyf, gan bo’ fi’n meddwl baswn i wedi bod hyd yn oed yn fwy gofidus pe bawn i’n gwybod bod criw yn annhebygol o gyrraedd cyn i mi roi genedigaeth.

“Roedd meddwl y byddai cymorth yn cyrraedd yn fuan wedi fy helpu i gadw’n dawel a chanolbwyntio ar eni Nancy.”

Ar ôl dilyn cyfarwyddiadau gan Tommy, cafodd Adam bopeth yn barod, yn barod i Nancy gyrraedd.

Dywedodd Adam, 26 oed: “Roedd Tommy yn wych ac wedi ein cadw ni i gyd mor dawel ac yn ein cysuro ni.

“Fe’n tywysodd drwy’r broses gyfan, gam wrth gam ac yn y diwedd, trodd yr hyn a allai fod wedi bod yn brofiad brawychus a thrawmatig iawn yn foment o lawenydd a hapusrwydd go iawn.”

Yn fuan ar ôl genedigaeth y babi Nancy, cyrhaeddodd bydwraig i wirio ei hiechyd ac ar ôl bodloni ei hun bod popeth yn iawn, caniataodd i Adam dorri'r llinyn.

Mewn gwirionedd, roedd y babi Nancy mor iach mi wnaeth y teulu gysylltu â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i roi gwybod iddynt na fyddai angen ambiwlans wedi’r cyfan ac yn rhyfeddol, ar ôl cael eu gwirio gan y fydwraig, penderfynwyd nad oedd hyd yn oed angen i fam mynd i’r ysbyty.

Dywedodd Bethan Jones, Hyrwyddwr Diogelwch Lleol a Bydwraig Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i weithio gyda rhaglenni cymorth diogelwch mamolaeth a newyddenedigol i sicrhau dulliau clir a chyson at ddiogelwch mamolaeth a newyddenedigol yn y lleoliad cyn cyrraedd ni a chyn cyrraedd yr ysbyty.

“Mae’r cyngor cyn cyrraedd y mae menywod a phobl sy’n geni yn ei dderbyn wrth ffonio 999 yn hanfodol i ddarparu gofal o ansawdd uchel o’r amser y rhoddir galwad 999.

“Mae rôl y triniwr galwadau yn hollbwysig yn hyn o beth ac roedd Tommy yn gefnogaeth wych i Charlotte a’i theulu yn ystod ac ar ôl genedigaeth Nancy.

“Rydym bob amser yn falch iawn o glywed profiadau cadarnhaol y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth ac mae’n wych bod Charlotte, Adam, Alice a Nancy wedi cael eu cefnogi gan y gwasanaethau Mamolaeth ac wedi aros gartref ar ôl yr enedigaeth.”

Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.