MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dadorchuddio gweithdy fflyd newydd o’r radd flaenaf ym Merthyr Tudful.
Yn nodedig, mae gan y safle wyth cyfleuster gwefru cerbydau trydan WAST, gan gynnwys dau uwch-wefrwr Pod Point 75kW deuol, sy'n golygu mai dyma safle cyntaf WAST i ddarparu ar gyfer y gwefrwyr cyflym hyn.
Mae'r gwefrwyr cyflym iawn hyn, ynghyd â buddsoddiadau eraill fel paneli solar, yn cyd-fynd â gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth o leihau ei hôl troed carbon a symud tuag at fod yn garbon niwtral.
Mae Gweithdy Merthyr yn dod â thimau fflyd o Goed-duon, Y Gored Ddu a Chaerffili ynghyd i fod yn gyfleuster cynnal a chadw a chomisiynu cerbydau o’r radd flaenaf.
Dechreuodd y daith ym mis Rhagfyr 2021 pan gymeradwyodd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth gais Achos Busnes Cyfalaf Cymru Gyfan ar gyfer gweithdy fflyd a chomisiynu yn y De-ddwyrain.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf a chyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae rhaglen gynhwysfawr o adnewyddu a gosod offer wedi’i chynnal.
Dywedodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfalaf ac Ystadau yr Ymddiriedolaeth: “Mae cwblhau’r prosiect yn dyst i ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth i ddarparu dull integredig o gynnal a chadw fflyd a chomisiynu gyda ffocws ar gynaliadwyedd, arloesedd ac effeithlonrwydd.”
Mae’r prosiect yn dod â dau dîm fflyd ar wahân ynghyd, a oedd wedi’u lleoli’n flaenorol yng Ngorsafoedd Ambiwlans Y Gored Ddu a Choed-duon, ynghyd â’r tîm fflyd comisiynu cerbydau o Gaerffili.
Mae'r uno hwn yn garreg filltir arwyddocaol i'r Ymddiriedolaeth, gan ddarparu cyfleuster o'r radd flaenaf sy'n darparu ar gyfer anghenion y tîm gweithredu a chomisiynu fflyd, gan hyrwyddo dull integredig, cydgysylltiedig a chyson o gynnal a chadw fflyd.
Dywedodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol: “Er ein bod yn ffarwelio â safleoedd Y Gored Ddu a Choed-duon, mae’n bwysig cofio bod creu’r hwb gweithdy fflyd hwn yn cyd-fynd â gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer cyfluniad fflyd gwydn ac ystwyth yn y dyfodol, gan ddatblygu ystâd y sefydliad a rhoi model gweithredol ar waith sy’n addas ar gyfer y dyfodol."
Nod Gweithdy Merthyr yw cyflawni nifer o amcanion buddsoddi pwysig, gan gynnwys lleihau costau drwy gynnal mwy o weithgareddau yn fewnol.
Ychwanegodd Chris: “Mae darparu’r cyfleusterau modern, addas i’r diben hyn yn helpu’r gwasanaeth i sicrhau parhad a chadernid busnes, tra’n lleihau allyriadau CO2 drwy gyflwyno cerbydau glanach a gwyrddach.
“Mae Prosiect Gweithdai Merthyr yn cynrychioli’r cam cyntaf mewn rhaglen ehangach o welliant ac mae’n dangos ymrwymiad diwyro’r Ymddiriedolaeth i wella ei galluoedd cynnal a chadw fflyd a sicrhau’r safonau uchaf o wasanaeth.”
Nodiadau gan y golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.