Neidio i'r prif gynnwy

Her ddwbl gweithiwr ambiwlans ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer

MAE GWEITHIWR Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymgymryd â thaith gerdded 26 milltir ac awyrblymio i godi arian ar gyfer elusen.

Bydd Laura Livall, 41, Rheolwr Rheoli Dyletswydd yng Nghwmbrân, yn neidio allan o awyren ym mis Mai ac yn cymryd rhan yn ei phedwaredd Trek26 ym Mannau Brycheiniog ym mis Mehefin er cof am ei mam-gu Jean Charles.

Bydd Laura, sydd wedi gweithio i’r Ymddiriedolaeth ers 19 mlynedd, ac sydd o’r Alban yn wreiddiol, yn codi arian ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer, elusen sy’n helpu i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd.

Dywedodd: “Dyma fydd y pedwerydd tro imi gymryd rhan yn Trek26 ym Mannau Brycheiniog, ond dwi wedi cwblhau heriau cerdded eraill, gan gynnwys y Macmillan Mighty Hikes yn Nyffryn Gwy ddwywaith a Gŵyr yn y blynyddoedd diwethaf, y ddau yn 26 milltir.

“Dewisais i’r Trek26 fel digwyddiad blynyddol gan bo’ fi eisiau gwthio fy hun bob blwyddyn a chodi arian at achos oedd yn agos at fy nghalon.

“Roedd fy mam-gu yn byw gyda dementia, a hi oedd fy 'siwper mam-gu’ bywyd go iawn.

“Felly, os alla i fod bach yn siwper a gwneud fy rhan dros elusen, yna beth am fod yn fwy dewr ac ymgymryd ag awyrblymio yn ogystal â thaith gerdded?

“Er, dwi ddim yn hollol siŵr beth fyddai hi’n ei ddweud am hyn.”

Yn ystod yr awyrblymio tandem, bydd Laura yn cyrraedd uchder o 10,000 troedfedd a chyflymder o hyd at 120mya, a chyfanswm uchder o 932m trwy gydol y daith 26 milltir.

Dywedodd Laura: “Mae dementia yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb, boed hynny'n gydweithiwr, yn ffrind neu'n aelod o'r teulu a chyn belled â bod fi’n ffit ac yn iach yna dwi'n gallu helpu eraill, yna dwi’n mynd i barhau i wthio fy hun - pam lai?

“Dwi’n gobeithio am ychydig o heulwen neu o leiaf awyr glir ar y ddau ddigwyddiad, ond dwi’n mynd i’w cwblhau beth bynnag (cyn belled â’i fod yn ddiogel).”

Dywedodd cydweithiwr Laura, Carla Hope sy’n nyrs Desg Cymorth Clinigol: “Mae Laura wedi bod yn ymgymryd â digwyddiadau i godi arian yn ddiflino am yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac alla i ddim bod yn fwy balch.

“Mae derbyn dwy her fawr i Gymdeithas Alzheimer eleni yn aruthrol.

“Does dim amheuaeth gyda fi y bydd hi’n cwblhau’r ddwy her a dwi’n dymuno bob lwc iddi.”

Gallwch noddi Laura drwy ei thudalen awyrblymio tandem JustGiving yma neu drwy ei thudalen Trek26 yma.

 

Nodiadau y Golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at yr Arbenigwr Cyfathrebu Beth.Eales@wales.nhs.uk