Neidio i'r prif gynnwy

Meddyliwch ddwywaith cyn deialu 999 y Pasg hwn

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog y cyhoedd i ddefnyddio eu gwasanaethau’n ddoeth dros benwythnos pedwar diwrnod y Pasg.

Mae penwythnos Gŵyl y Banc yn dilyn cyfnod o bedwar diwrnod o weithredu diwydiannol gan feddygon iau yng Nghymru, gan ddechrau o 7am ddydd Llun 25 Mawrth tan 7am ddydd Gwener 29 Mawrth.

Mae’r gweithredu diwydiannol hwn, ynghyd â’r pwysau traddodiadol a wynebwyd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru a system ehangach y GIG dros gyfnod y Pasg, yn golygu y gall amseroedd aros mewn adrannau achosion brys ac yn y gymuned fod yn hirach nag arfer.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn atgoffa'r cyhoedd am y dewisiadau amgen i 999 er mwyn diogelu ei hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.

- Casglwch unrhyw bresgripsiynau rheolaidd cyn y penwythnos pedwar diwrnod
- Sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf llawn i drin mân anhwylderau gartref
- Profwch eich symptomau ar wefan GIG 111 Cymru, neu ffoniwch 111 os ydych yn ansicr
- Ymwelwch â’ch fferyllfa leol, lle gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys gynnig cyngor clinigol am ddim a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin
- Ymwelwch ag Uned Mân Anafiadau ar gyfer anafiadau nad ydynt yn ddifrifol

Mae aelodau'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i gadw llygad ar unrhyw deulu, ffrindiau neu gymdogion oedrannus neu agored i niwed ac i sicrhau bod eu cabinetau meddyginiaeth yn cynnwys meddyginiaeth ddefnyddiol a diweddar.

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Fel arfer, rydyn ni’n disgwyl i gyfnod Gŵyl y Banc fod yn un prysur i ni a dyna pam rydyn ni’n gofyn am help pawb i wneud yn siŵr ein bod ni yno i’r rhai sydd fwyaf sâl neu wedi’u hanafu’n ddifrifol dros gyfnod y Pasg.

“Os ydych chi'n ein ffonio ni am rywbeth nad yw'n argyfwng, fe allech chi fod yn cymryd amser ac adnoddau gwerthfawr oddi wrth rywun sydd mewn argyfwng gwirioneddol sy'n bygwth bywyd.

“Dylai pobl ddeall hefyd nad yw’r ffaith eich bod yn ffonio ambiwlans neu’n cael eich cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans yn golygu y byddwch yn cael eich trin yn gynt ar ôl i chi gyrraedd yr adran achosion brys.

“Felly, helpwch ni i’ch helpu chi ac ystyried yr ystod o wasanaethau eraill sydd ar gael i chi.”

Nodiadau gan y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.