Neidio i'r prif gynnwy

'Ydy mynd adref mewn un darn yn ormod i'w ofyn?' – Parafeddyg yn ymddiswyddo ar ôl ymosodiad

MAE Parafeddyg a gafodd ei cham-drin yn eiriol ac a chafodd ei phoeri ati wrth iddi geisio helpu claf wedi penderfynu gadael ei swydd.

Dywedodd Julie Owen, Parafeddyg Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ym Mae Colwyn, fod yr ymosodiad gan ferch claf fis Hydref diwethaf wedi ei gadael yn 'or-ymwybodol' o fygythiadau.

Tra bod Julie wedi cael cwnsela, mae'n dweud nad oes ganddi bellach ddiddordeb yn y swydd roedd hi'n ei charu ar un adeg.

Dywedodd y fenyw 56 oed: “Dw i wedi dioddef trais ac ymddygiad ymosodol o sawl math yn ystod fy ngyrfa 20 mlynedd, ac mae’n debyg mai dyma’r un olaf dw i’n barod i ddelio ag ef.

“Maen nhw'n cronni ac yn cronni, ac un diwrnod yn mynd yn ormod.

“Ro’n i’n ofni am fy mywyd y noson honno, ac roedd yr effaith arnaf yn rhywbeth nad o’n i’n ei ddisgwyl.

“Ydy mynd adref mewn un darn yn ormod i'w ofyn?”

Roedd Julie a'i chydweithiwr Emma Griffiths, Technegydd Meddygol Brys, yn ymateb i argyfwng meddygol yn Shotton pan aeth merch y claf yn ymosodol.

Dywedodd Emma, ​​49, sydd hefyd ag 20 mlynedd o wasanaeth: “Roedden ni'n gallu clywed gweiddi a sgrechian cyn i ni hyd yn oed fynd i mewn i'r eiddo.

“Wrth i ni geisio trin y claf, roedd ei merch wedi digio wrth y ffaith ein bod ni wedi gofyn iddi beidio â chynnau sigarét o amgylch y silindr ocsigen, sy’n fflamadwy.

“Ar un adeg fe geisiodd hi rwystro’r drws gyda’i llaw, a phan ofynnais iddi ei symud, fe ddechreuodd hi weiddi pa mor ddiwerth oedden ni a galwodd fi yn fimbo benfelyn, tew.

“Roedd hi'n neidio i fyny ac i lawr yn wallgof ac nid oedd modd ei hatal.

“Dw i wedi cael fy ngham-drin yn eiriol sawl gwaith yn ystod fy ngyrfa, ond hwn oedd fy ymosodiad corfforol cyntaf.

“Fe wnaeth fy ysgwyd oherwydd ein bod ni yno i helpu.

“Ni ddylai ymosodiadau byth fod yn rhan o’r swydd.”

Dywedodd Julie: “Roedd hi’n ein cam-drin yn eiriol drwy’r holl beth, a phan aethon ni i gael lleddfu poen i’w mam, aeth hi’n ymosodol yn gorfforol hefyd.

“Taflodd hi wydr atom, poeri atom a daeth i fyny at ein hwynebau yn trio pwnsio ni.”


Galwodd Julie ac Emma am gymorth gan yr heddlu a chafodd merch y claf ei harestio.

Dywedodd Julie: “Diolch byth fe ymatebodd yr heddlu mor gyflym a dod i’n cymorth ni.

“Mae'n annerbyniol ymosod ar unrhyw weithiwr brys - maen nhw yno i helpu.

“Dw i’n caru fy swydd fel parafeddyg ond ers y digwyddiad wedi colli diddordeb ynddi ac yn hynod ymwybodol o’r hyn y gallwn fod yn ei wynebu yn y gymuned.

“I’r perwyl hwnnw, rydw i wedi penderfynu hongian fy esgidiau i fyny a chael rôl arall yn y gwasanaeth sy’n golygu y bydd gennyf lai o gyswllt gyda chleifion.

“Mae’n ffordd drist iawn i mi ddod â fy ngyrfa fel parafeddyg ffordd i ben.”

Ar 29 Chwefror 2024 yn Llys Ynadon yr Wyddgrug, cafodd Kirsty Walker, 33, o North Street, Shotton, ei charcharu am 20 wythnos ar ôl cyfaddef yn flaenorol i dair trosedd o ymosod ar weithiwr brys ac un o ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol neu ymosodol.

Gorchmynnwyd iddi hefyd dalu £50 mewn iawndal i bob un o’r dioddefwyr.


I’w chydweithwyr yn y gwasanaeth ambiwlans, roedd gan Julie y neges hon.

“Ni ddylai trais ac ymddygiad ymosodol fyth fod yn rhan o’r swydd,” meddai.

“Peidiwch â dioddef oherwydd un diwrnod bydd yn dod yn ôl ac yn eich brathu, yn union fel y gwnaeth i mi.

“Dylai staff riportio unrhyw fath o drais, hyd yn oed os mai dim ond bygythiad geiriol ydyw, oherwydd os na chaiff ei adrodd ac na chymerir unrhyw gamau, gallai eich cydweithwyr ffeindio eu hunain yn yr un sefyllfa ddyddiau’n ddiweddarach – neu’n waeth.”

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae’n dorcalonnus clywed bod Julie, a fydd wedi helpu miloedd o gleifion yn ystod ei gyrfa 20 mlynedd, wedi penderfynu camu i lawr o’i rôl sy’n wynebu cleifion.

“Yr hyn sydd hefyd yn rhwystredig yw bod Julie ac Emma yno i helpu mam y person hwn, felly mae eu rhwystro yn ystod hynny ac ymddwyn mor atgas yn anghredadwy.

“Mae trais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn gweithwyr brys yn annerbyniol a byddwn bob amser yn ceisio erlyn y rhai sy’n dewis niweidio ein pobl.

“Mae gweithwyr ambiwlans yno i helpu pobl, ond dydyn nhw ddim yn gallu ymladd am fywyd rhywun os ydyn nhw’n ymladd dros eu bywyd eu hunain.”

Ychwanegodd Wesley Williams, Arolygydd Ardal yn Heddlu Gogledd Cymru: “Bob dydd, mae gweithwyr y gwasanaethau brys yn aml yn delio â sefyllfaoedd heriol ac yn rhoi eu hunain mewn ffordd niwed i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ac i achub bywydau.

“Nid yw ac ni ddylid byth ystyried bod ymosodiadau yn rhan o’r swydd.

“Mae ymosodiad yn drosedd drawmatig sy’n achosi trawma mawr i unrhyw un, ac nid yw’n wahanol pan fo’r dioddefwr yn weithiwr brys.

“Mae’n gwbl annerbyniol iddynt gael eu bygwth, ymosod arnynt, eu cam-drin yn eiriol neu boeri arnynt - a dylai’r rhai sy’n gyfrifol wynebu holl rym y gyfraith.”

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn aelod o Grŵp Cydweithredol Gwrth-drais GIG Cymru, a sefydlwyd i wella’r broses o adrodd am ddigwyddiadau a rhoi gwell cymorth i ddioddefwyr drwy’r broses erlyn.

Dywedodd Jonathan Webb, Cadeirydd y Grŵp Cydweithredol, sy’n cynnwys GIG Cymru, heddluoedd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cymorth staff: “Mae unrhyw fath o gam-drin neu drais yn erbyn gweithwyr brys yn annerbyniol.

“Mae partneriaid y Grŵp Cydweithredol Gwrth-drais yn gweithio’n frwd ar fentrau i leihau trais ac ymddygiad ymosodol y mae cydweithwyr yn dod ar eu traws.”

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn cynnal ymgyrch i leihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys yng Nghymru.

Addunedwch eich cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs